BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Arc Enterprises Cyf

Arc Enterprises Cyf

Sefydlwyd Arc Enterprises Cyf gan Shaun Casey a Dan Roberts, sydd â 30 mlynedd o brofiad rhyngddynt o gyflwyno hyfforddiant ac addysg estyn allan i amrywiaeth o gymunedau yng Nghymru, yn ogystal â busnesau, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli prosiectau.

Mae'r busnes yn defnyddio dull gweithredu blaengar sy'n canolbwyntio ar gleientiaid fel rhan annatod i gyflwyno amrywiaeth eang o raglenni hyfforddiant a chefnogi, yn cynnwys cymorth sgiliau, cynhwysiad digidol, mentora gyrfaoedd a menter, rhaglenni galwedigaethol, hyfforddiant grŵp a chynlluniau dysgu unigol pwrpasol.

"Rydym yn cyflwyno hyn mewn amgylcheddau cymunedol hygyrch ac anffurfiol fel gall buddiolwyr ymgeisio i gyflawni eu gorau. Ar hyn o bryd, mae gan Arc Enterprises Cyf chwe aelod o staff sy'n hwyluso ein hyfforddiant yn uniongyrchol, yn ogystal ag adnodd wrth gefn o dros 10 o athrawon a thiwtoriaid cymwys sydd ar gael ar gyfer sawl rhaglen yn ôl yr angen." Shaun Casey, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr

Beth ddaru nhw

"Ar ôl myfyrio, yn y diwedd penderfynasom sefydlu ein cwmni hyfforddiant ein hunain fel y gallem strwythuro rhaglenni y byddai'n cael eu cyflwyno yn ein ffordd unigryw ac arloesol ein hunain. Mae un o brosiectau presennol Arc Enterprises, a gyflwynir ar ran yr Adran Waith a Phensiynau, o fudd i 56 hyfforddai gyda sgiliau digidol, cyflogadwyedd a hyfforddiant hyder yn Wrecsam. Yn ychwanegol, rydym wedi cael y cyfle i gynnig 9 lle profiad gwaith TAR o Brifysgol Glyndŵr a 4 lle profiad gwaith o'r Adran Waith a Phensiynau."

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

"Hwyrach y gallem fod wedi ceisio cymorth a chyngor gan sefydliadau megis [gwasanaeth cefnogi busnes Llywodraeth Cymru] Busnes Cymru yn gynt nag y gwnaethom."

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Y foment balchaf o bell ffordd yw pan fyddem yn gweld bob un o'n hyfforddeion yn symud ymlaen ac yn gwneud cynnydd, gan wneud gwahaniaeth go iawn iddynt."

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes? 

"Ydym - rydym yn defnyddio pamffledi dwyieithog i hyrwyddo ein busnes a'r hyfforddiant, ac mae gennym hyfforddwyr Cymraeg ar gael pan fo angen, hefyd."

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

"Fel rhan o'r broses o gael Arc Entrerprises Cyf ar ei draed, aethom at Fusnes Cymru a ddarparodd gymorth mentora a hyfforddiant amhrisiadwy i ni. Rydym hefyd yn cael budd o Hwb Menter Wrecsam Busnes Cymru, sy'n darparu cyfleusterau i gyflwyno ein rhaglenni hyfforddiant a chefnogi."

Cyngor Da

Dyma awgrymiadau ardderchog Shaun a Dan i unrhyw un arall sy'n awyddus i ddechrau neu dyfu ei fusnes ei hun:

  • myfyriwch, yna myfyriwch eto
  • meddwch ar weledigaeth
  • byddwch yn ymwybodol mai chi yw'r gorau am wneud yr hyn a wnewch oherwydd eich bod yn unigryw
  • rhowch eich pen i lawr a gweithiwch yn galed
  • cydweithiwch, rhwydweithiwch a byddwch yn adeiladol

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.