BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Atebion cynaliadwy yn cyflawni nod tafarn leol i fynd oddi ar y grid

Andrew Owen

Cymerodd Andrew Owen berchnogaeth dros The Butchers Arms ym Mhontsticill, tafarn 200 mlwydd oed ar ymyl Bannau Brycheiniog, yn Hydref 2023, gyda’r uchelgais fawr o greu’r dafarn leol gyntaf â bar, bwyty a llety i fod oddi ar y grid erbyn 2025.

Diolch i gymorth Busnes Cymru, o fewn cwta tri mis ar ôl cymryd perchnogaeth dros y dafarn, mae Andrew wedi rhoi amrywiaeth o atebion cynaliadwy ar waith er mwyn cyflawni ei nod. Mae hyn wedi cynnwys inswleiddio’r adeilad yn llwyr, a gosod system drydan fwy ecogyfeillgar i gymryd lle’r hen fwyler olew costus, ynghyd â phaneli solar a fydd yn cynhyrchu digon o drydan i redeg cegin hollol hunangynhwysol.

Cafodd Andrew gymorth gan Ymgynghorydd Datgarboneiddio Busnes Cymru, Dr Sarah Gore, sydd wedi bod wrthi’n rhan o’r frwydr yn erbyn newid hinsawdd ers degawd bellach wrth gyhoeddi gwaith ymchwil helaeth ar effeithiau amgylcheddol dulliau o gael gwared ar garbon, â’i gynlluniau i eco-ehangu ei fusnes.

Yn ogystal â helpu Andrew i ddatblygu strategaeth amgylcheddol, creu cynllun lleihau carbon, a chyfrifo’i allyriannau, cynorthwyodd Sarah y dafarn i lunio Adduned Twf Gwyrdd a fu’n rhan greiddiol o’i gais am  £10,000 o gymorth o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, a ddaeth i’w sylw trwy Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Dywedodd Andrew:

Tafarn draddodiadol iawn yw’r Butchers Arms ar gyrion prydferth Bannau Brycheiniog, sy’n lle hoff i anturiaethwyr, twristiaid a phobl sy’n mwynhau gweithgareddau awyr agored. Roedd hi’n edrych yn le hyfryd ar gerdyn post, ond y gwir oedd ei bod hi’n pwmpio llwyth o danwydd ffosil allan oherwydd diffyg inswleiddiad a’r system gwresogi olew hen iawn. Yng nghanol yr holl natur anhygoel yma, doedd hynny ddim yn teimlo’n iawn i mi.

Roedd Andrew, a oedd wedi gweithio fel rheolwr masnachol mewn tafarndai a bwytai yng Nghymru o’r blaen, yn gweld potensial i wella enw da The Butchers Arms yn niwydiant twristiaeth Cymru, a’i droi’n fusnes oedd yn llesol i fusnesau awyr agored cyfagos a’r gymuned leol hefyd. Mae ei gynlluniau at y dyfodol yn cynnwys archwilio’r potensial o osod tyrbin gwynt ar dir cyfagos er mwyn creu ynni adnewyddadwy hefyd.

Parhaodd Andrew: 

Does dim syniad y tu hwnt i’n gafael erbyn hyn. Mae rhywbeth a ddechreuodd fel uchelgais anferth wedi troi’n nod y gellir ei gyflawni mewn dim o dro diolch i gefnogaeth ddi-ben-draw Busnes Cymru. Sarah oedd y person gorau i fy nghynorthwyo i symleiddio a chadarnhau fy nodau gwyrdd ar gyfer The Butchers Arms.

Mae Eve Goldsbury, Swyddog Datgarboneiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, wedi chwarae rhan bwysig hefyd wrth ein helpu ni i gyflawni ein nod o fod yn fusnes sy’n llwyr oddi ar y grid erbyn 2025, trwy ein helpu ni i ddiogelu’r cyllid hollbwysig. Rydyn ni’n sicr ar y trywydd iawn.

Gosodwyd yr her i gyflenwyr bwyd a diod y dafarn i leihau eu hôl troed carbon hefyd trwy gludo nwyddau i’r dafarn dim mwy na dwywaith yr wythnos yn hytrach na phump neu chwe gwaith. Trwy fod yn dryloyw gyda’i gyflenwyr, mae Andrew yn gobeithio eu darbwyllo i ddylanwadu ar eu partneriaid Cymreig eraill i leihau eu hôl troed carbon nhw hefyd.

Mae Andrew yn helpu ei weithlu a’r gymuned ehangach i leihau eu hôl troed carbon trwy gyflogi pobl leol ac annog ei staff o 14 i deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith gyda’i gilydd er mwyn lleihau eu defnydd o danwydd. Yn ogystal, mae’n trefnu cludiant lleol i fynd ag ymwelwyr y dafarn yn ôl ac ymlaen i fusnesau awyr agored cyfagos fel Bike Park Cymru.

Dywedodd Sarah Gore: 

Dydy Andrew ddim wedi oedi dim yn ei ras i droi The Butchers Arms yn lle croesawgar oddi ar y grid. Mae e wedi bod mor frwd i fanteisio ar ein cymorth yn Busnes Cymru ac wedi ymgorffori nifer o dechnolegau newydd arloesol ac arferion cynaliadwy i’w fusnes mewn dim o dro. Mae bod yn rhan o’i siwrnai busnes yn ysbrydoledig.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru. I gael rhagor o fanylion a chymorth i helpu eich busnes chi i ddarganfod cyfleoedd, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru. Ffoniwch 03000 6 03000 neu ewch i https://businesswales.gov.wales/cy 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.