BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Betty Berkins Coffee Shops

Betty Berkins Coffee Shops

 

Llwyddodd yr entrepreneur o Ogledd Cymru, Fidelma Davies, i lansio siop goffi yn Wrecsam a Threffynnon yn dilyn cyngor ac arweiniad gan Reolwr Perthynas Busnes Cymru yn ogystal â chefnogaeth bellach gydag Adnoddau Dynol a gweithdai arbenigol.

  • lansio 2 siop goffi yng Ngogledd Cymru yn llwyddiannus
  • creu 7 o swyddi
  • trosiant wedi cynyddu ers y lansiad

Cyflwyniad i'r busnes

Yn fuan ar ôl lansiad llwyddiannus ei siop goffi gyntaf yng Nghanolfan Arddio Carlton ger Wrecsam, cafodd Fidelma Davies gyfle i agor busnes newydd yn Nhreffynnon - lle ganwyd ei syniad gwreiddiol.

Wedi'i lansio ym mis Ebrill ac Awst 2019 yn y drefn honno, mae'r ddwy siop goffi Betty Berkins yn cynnig amrywiaeth o de, coffi a theisennau, yn ogystal ag amrywiaeth o ddewisiadau brecwast a chinio, sydd ar gael i fwyta i mewn neu i fynd allan.

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Rwyf wastad wedi bod eisiau sefydlu fy musnes fy hun a'r freuddwyd erioed oedd cael fy siop goffi fy hun. Roeddwn i eisiau creu lle hyfryd, a oedd yn glyd i gwsmeriaid a hefyd yn gweini coffi a theisennau bendigedig gyda gwasanaeth cyfeillgar.

Daeth fy ysgogiad i greu Betty Berkins gan fy mam, Betty, ei llysenw yn tyfu i fyny oedd Betty Berkins. Roedd hi bob amser wrth ei bodd yn gwneud paneidiau i bobl ac ni allech fyth osgoi cael paned gyda hi pan fyddech chi'n galw heibio. Yn anffodus, fe wnaethom golli mam ychydig flynyddoedd yn ôl, ond rwy'n gwybod y byddai hi'n falch o'r hyn rwyf wedi'i gyflawni ac agor y siop goffi er cof amdani - yn gweini ei holl hoff bethau hi.

Pa heriau a wyneboch?

Un o fy heriau mwyaf oedd gorfod dechrau o'r dechrau gyda'r siop goffi ar Ystâd Ddiwydiannol Llai. Cyn i ni symud i mewn, roedd yn sied ar gyfer peiriannau torri lawnt, felly mae wedi cael ei weddnewidid yn llwyr! Fy her nesaf oedd ein gwneud yn weladwy i'r gymuned leol a busnesau, sy'n rhywbeth yr ydym yn dal i weithio'n galed arno, ond ni allwn ddiolch digon i'n cwsmeriaid am helpu i ledaenu'r gair. 

Yn ddiweddar rydym wedi agor ail Siop Goffi Betty Berkins yn y Glasdir ym Mhentre Helygain. Mae agor ail siop mewn cyfnod mor fyr wedi bod yn heriol ond rydym wedi cael adborth gwych hyd yn hyn a dyna sy'n fy ysgogi. Rwy'n ymfalchïo mewn darparu cynnyrch a choffi lleol o'r ansawdd gorau lle y gallaf, ac rwyf eisiau cyflogi pobl sydd mor angerddol â mi. 

Cymorth Busnes Cymru

Ar ôl cael cymorth i ddechrau busnes gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ar gyfer ei menter gyntaf, cysylltodd Fidelma â'r tîm gan fod ganddi ychydig bryderon ynghylch y cyfle busnes newydd.

Helpodd y Rheolwr Perthynas Svetlana Ross gyda’r rhagolygon llif arian ar gyfer y siopau coffi i helpu Fidelma i ddeall y costau a’r gwerthiannau gofynnol i gynyddu trosiant.

Rhoddodd Svetlana gefnogaeth bellach gyda rheoli amser, rhwydweithio, uwchsgilio staff a marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol, a arweiniodd at drosiant cynyddol a gwell elw.

Fe wnaeth Fidelma hefyd elwa o gymorth gan ymgynghorydd Adnoddau Dynol arbenigol o Fusnes Cymru, Lowri Dundee, a gynorthwyodd gyda materion recriwtio, contractau cyflogaeth, cynefino staff a chofrestru gyda Chyllid a Thollau EM. Mae hi hefyd wedi cael ei pharu â mentor busnes gwirfoddol i'w harwain wrth iddi geisio tyfu'r ddau fusnes ymhellach.

Canlyniadau

  • lansio dau fusnes llwyddiannus
  • cymorth Adnoddau Dynol i Recriwtio Staff
  • creu 7 o swyddi

Mae Busnes Cymru wedi bod yn wych trwy gydol fy mhrofiad o agor dwy siop goffi yn ystod y chwe mis diwethaf. Mae’r cymorth, y cyngor a’r cyrsiau busnes am ddim wedi bod yn amhrisiadwy, ac ni allwn eu hargymell ddigon i unrhyw un sy’n ystyried sefydlu busnes newydd. Diolch am eich holl gymorth a chefnogaeth!

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yw tyfu'r ddwy siop goffi Betty Berkins a sicrhau ein bod yn adnabyddus am goffi a theisennau gwych. Mae'n amser cyffrous iawn i ni ac mae agor siop goffi arall wedi mynd y tu hwnt i'r hyn yr oeddwn i erioed wedi breuddwydio ei wneud. Rwy'n gweithio'n galed i gadw i fyny â galw cwsmeriaid ac i wneud ein siopau coffi yn lleoedd sy'n gallu plesio pawb.  

Pe hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i sefydlu neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.