BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

‘Chwarae teg’ i ffrindiau coleg a lansiodd menter busnes retro wrth galon Wrecsam

Kyle Oliver and Charlie Hughes

Ym mis Ionawr 2024, agorodd pâr o ffrindiau pennaf, Kyle Oliver a Charlie Hughes, ddrysau Retrograde Wrexham i’r cyhoedd am y tro cyntaf diolch i gefnogaeth Busnes Cymru.

O fewn mis ar ôl dechrau masnachu, roedd y pâr eisoes yn ymchwilio i ffyrdd o ddatblygu’r busnes ymhellach am eu bod wedi rhagori ar eu nodau dyddiol o ran elw gan sicrhau trosiant o £3,000 o fewn cwta wythnosau.

Yn ogystal ag ehangu arlwy arcêd y caffi i bedwar o beiriannau gemau retro, mae’r partneriaid wedi diogelu offer ail law gan fusnesau lleol a fydd yn eu galluogi i ehangu bwydlen y caffi i werthu pizzas cartref ac amrywiaeth o de swigod.

Dywedodd Charlie Hughes:

Fy mreuddwyd ers tro byd oedd rhedeg fy nghaffi gemau fy hun, ond doeddwn i ddim wedi ystyried mynd ati go iawn tan Hydref 2023. Rydw i wedi gweithio fel barista dros gwmnïau lleol ers nifer o flynyddoedd, ac yn ddiweddar fe ddechreuais i arbenigo mewn gemau a thrwsio peiriannau gemau. Cefais i nifer o hen beiriannau ac offer arcêd gan glient ar ôl gorffen job. Mae hi’n ddigon anodd dod o hyd i’r gemau retro yma, felly pan laniodd y rhain yn fy nghôl fel hyn, roedd hi’n teimlo fel arwydd. Doeddwn i ddim am wrthod y cynnig, ond roeddwn i’n gwybod na allwn ni wneud y cyfan fy hun. Dyna pryd ffurfiais i’r bartneriaeth gyda Kyle.

Ar ôl cytuno’n syth i helpu ei ffrind gorau i wireddu ei freuddwyd entrepreneuraidd, cysylltodd Kyle â Busnes Cymru yn Rhagfyr 2023 i ofyn am gyngor ar sut i droi’r caffi’n realiti. Ar ôl archwilio adnoddau ar lein y gwasanaeth, ymunodd Kyle â gweminar fyw ar dreth a chadw llyfrau dan arweiniad Lee Stephens, un o Ymgynghorwyr Busnes Cymru.

Yn dilyn sgwrs gychwynnol yn y weminar, rhannodd Lee wybodaeth am drethi busnes, lleoliadau yn Wrecsam, adnoddau a dogfennau lleol a gan y llywodraeth am gynlluniau ariannu, yn ogystal â gwaith papur ar gyfer yr Addunedau Twf Gwyrdd a Chydraddoldeb. Ym mis Ionawr, llwyddodd Kyle a Charlie i ddiogelu lle yng Nghanolfan Siopa boblogaidd Dôl yr Eryrod yn Wrecsam. Roedd hi wedi bod yn gaffi o’r blaen, roedd ganddi’r holl gyfleusterau angenrheidiol, ac roedd hi mewn lleoliad poblogaidd, a bu’r ffaith fod nifer fawr o bobl yn mynd a dod yn ffactor pwysig yn llwyddiant mis cyntaf y busnes.

Diolch i gefnogaeth Lee trwy Busnes Cymru, mae Kyle wedi gallu datblygu’r sgiliau entrepreneuraidd angenrheidiol i dyfu’r busnes, sydd wedi caniatáu i’w gydberchennog Charlie roi’r gorau i’w swydd ran-amser a chanolbwyntio ar ddatblygu Retrograde Wrexham.

Dywedodd Kyle Oliver:

Roeddwn i wedi clywed am gymorth Busnes Cymru trwy gwmnïau roeddwn i wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol, ond doeddwn i ddim wedi disgwyl cael cymaint o gefnogaeth ag y cawsom ni o fewn cyfnod mor fyr. Dim ond dyddiau ar ôl cwrdd, cysylltodd Lee â ni gyda llu o adnoddau a dogfennau ar bopeth o ddiogelu safle i gael ardystiad hylendid bwyd a chyflogaeth. Cynorthwyodd Lee ni i ddatblygu cynllun busnes a strategaeth twf, a hyd yn oed ein cyfeirio ni at gyfleoedd i gael cyllid, sy’n rhywbeth rydyn ni’n awyddus i’w archwilio ymhellach.

Doeddwn i erioed wedi ystyried bod yn gydberchennog busnes, ond fe godais i i’r her er mwyn helpu fy ffrind i wireddu ei freuddwydion entrepreneuraidd. Mae hi wedi bod yn sialens, am fy mod i’n gweithio llawn amser fel peiriannydd meddalwedd, ond mae cefnogaeth Lee a Busnes Cymru wedi gwneud y broses yn haws o lawer. Fyddem ni ddim wedi cael y llwyddiant rydyn ni wedi ei gael hyd yn hyn heblaw amdanyn nhw.

Eu cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf yw ehangu bwydlen y caffi a’r arlwy chwarae eto fyth, a’r gobaith yw cynyddu elw Retrograde Wrexham yn ddigonol i gyflogi aelod arall o staff.

Dywedodd Lee Stephens:

Mae hi wedi bod yn hyfryd gweld Retrograde Wrexham yn newid o fod yn llond llaw o hen yriannau caled a breuddwyd, i fod yn fusnes hollol weithredol mewn lleoliad poblogaidd. Fyddai Kyle a Charlie ddim wedi cael y llwyddiant maen nhw wedi ei gael heblaw bod Kyle wedi manteisio ar bob elfen o’r cymorth sydd gennym i’w gynnig, o’n cyfarfodydd pwrpasol fesul un i adnoddau ar lein a gweminarau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd stori Kyle a Charlie’n destament i’r ffaith fod cyngor a chymorth ar gael i unrhyw un sy’n gofyn amdano.

Llywodraeth Cymru sy’n ariannu Busnes Cymru.  I gael rhagor o fanylion a chymorth i’ch cynorthwyo i gynllunio, lansio a datblygu eich busnes, ac i siarad ag ymgynghorydd arbenigol, cysylltwch â Busnes Cymru.

Ewch i https://businesswales.gov.wales/cy neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.