BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Coaltown Coffee

Coaltown Coffee

Mae Coaltown Coffee wedi’i leoli yn Rhydaman yn ne Cymru, cymuned ôl-ddiwydiannol lle’r oedd glo carreg (Aur Du) yn cynnal yr economi leol. Yn ôl yn 2003, caeodd y pwll glo olaf a thrwy hynny diflannodd pwrpas y dref. Roedd gan sylfaenydd Coaltown Coffee, Scott James, uchelgais i ddod â diwydiant newydd i’w dref enedigol, Aur Du newydd, pwrpas newydd. Yn 2018, lansiodd Coaltown Coffee a daeth Rhydaman yn enwog am ei Aur Du eto, er ei fod yn aur du o fath gwahanol.

Uchelgais y cwmni erioed oedd agor gwythïen newydd a mabwysiadu dull blaengar a modern yn hytrach na dulliau busnes traddodiadol. Er bod Coaltown Coffee yn fusnes ‘tref fach’, maen nhw’n mynd i’r afael â’r hyn maen nhw’n ei wneud gyda meddylfryd ‘dinas fawr’, gan edrych i’r dyfodol bob amser, croesawu strategaethau e-fasnach a defnyddio pob sianel bosib.

Yn wir, maen nhw wedi bod yn arloeswyr yng Nghymru am hyrwyddo arferion Gwaith Teg, ar ôl eu mabwysiadu’n gynnar ar daith y cwmni. Maen nhw hefyd wedi’u hardystio gan B-Corp ers 2019, a nhw yw’r rhostwyr coffi cyntaf yn y DU i gyflawni’r statws hwnnw. Mae hyn yn golygu eu bod yn rhoi’r blaned o flaen elw ym mhopeth maen nhw’n ei wneud. Mae hyn yn cysylltu â sut maen nhw’n cyflogi pobl, sut maen nhw’n gofalu am eu tîm, eu hymwybyddiaeth o’u hôl troed carbon, yn ogystal â sut mae masnach eu coffi yn effeithio ar y cynhyrchwyr coffi yn ffynhonnell ei darddiad.

Gwobrwyo teg

Mae Coaltown Coffee wedi bod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig am y tair blynedd diwethaf, ond nid yw’n rhywbeth y mae’r cwmni yn ei ystyried yn eithriadol. Fel cwmni, mae gwobrwyo gwaith caled gyda chyflog teg a bod yn ymwybodol o dlodi mewn gwaith yn rhywbeth y maen nhw’n teimlo’n gryf amdano. Mae popeth maen nhw’n ei wneud yn ymwneud ag adfywio’r ardal leol a’r economi leol, ac maen nhw’n deall bod talu Cyflog Byw gwirioneddol yn hanfodol i hynny. Mae Scott yn esbonio bod cyflog teg yn rhywbeth safonol y dylai pob cyflogwr fod yn ei ddarparu i’w weithwyr:

Doedd talu llai na Chyflog Byw gwirioneddol ddim hyd yn oed yn rhywbeth wnaethon ni ei ystyried. Os ydyn ni’n talu ein gweithwyr yn deg, rydyn ni’n gwybod bod yr arian yna’n cael ei wario yn ôl yn y gymuned leol, gan helpu i feithrin a thyfu busnesau gwych eraill o’n cwmpas.”

Llais y cyflogai a chydgynrychiolaeth

Mae Coaltown Coffee yn anfon arolwg blynyddol at bob gweithiwr ac yn gofyn i’r tîm rannu eu meddyliau, eu teimladau a’u syniadau am y cwmni. Mae’r wybodaeth yn cael ei hadolygu, ac yna mae’r cwmni’n edrych am y ffordd orau o gofleidio’r adborth a chymryd camau ystyrlon yn ei sgil. Er enghraifft, y llynedd canfu canlyniadau’r arolwg nad oedd eu tîm yn teimlo bod cyfathrebu wedi bod mor glir ag o’r blaen ers i’r tîm dyfu. O ganlyniad, mae cyfarfodydd boreol dyddiol bellach ar waith. Mae Scott yn esbonio bod dechrau strwythuredig i’r diwrnod yn hanfodol er mwyn i’r tîm wybod beth sy’n digwydd yn y busnes:

Rydyn ni’n dod at ein gilydd yn y bore, yn cael paned o goffi, ac yn eistedd i lawr a thrafod manylion y diwrnod a’r wythnos sydd i ddod. Mae rhywun gwahanol o’r tîm wrth y llyw ar gyfer pob cyfarfod gan nad yw ein dull rheoli yn dod o’r brig i lawr. Rydyn ni am i bawb gyfrannu’n llawn yn y gwaith ac rydyn ni am glywed yr hyn sydd gan bawb i’w ddweud.

Cyfle i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen

Arfer arall o Waith Teg sydd wedi bod yn ffocws i Coaltown Coffee dros y flwyddyn ddiwethaf yw’r cyfle i gael mynediad, i dyfu ac i gamu ymlaen a’r syniad o ddarparu diwylliant darbodus. Mae hon yn broses effeithlonrwydd debyg i’r un a weithredir gan y gwneuthurwr ceir, Toyota, sydd wedi ymwreiddio’r syniad bod lle i wella parhaus yn eu systemau gweithgynhyrchu. Mae’r tîm wedi gosod nod o wneud gwelliant amser o ddwy eiliad bob dydd. Mae’r gwelliannau bach hyn yn arbed oriau o amser dros flwyddyn ac yn y pen draw yn rhyddhau dyddiau gweithwyr fel y gallan nhw fwrw ymlaen â phethau eraill a fydd yn eu helpu i dyfu a datblygu yn y gweithle. Mae gweithwyr Coaltown Coffee hefyd yn cael cynnig i ymgymryd â rhaglenni hyfforddi wedi’u hariannu’n llawn. Mae hyn yn cynnwys cael eu hardystio fel baristas canolradd fel rhan o’r Gymdeithas Coffi Arbenigol, gan wobrwyo cyfranogwyr gyda phwyntiau y gellir eu rhoi tuag at ddiploma mewn coffi, sef y lefel gyfatebol i radd. Mae dysgu galwedigaethol a dysgu wrth weithio hefyd yn rhan o ymrwymiad Coaltown Coffee i gynnig cyfleoedd ar gyfer twf a dilyniant i’w gweithwyr.

Amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol

Gan fod ganddyn nhw linell gynhyrchu a pheiriannau trwm, mae Coaltown Coffee yn cymryd iechyd a diogelwch corfforol eu gweithwyr o ddifrif ac yn sicrhau bod mesurau llym ar waith, sy’n cael eu cyfleu i’r tîm a’u hadolygu’n rheolaidd gan ymgynghori â phawb yn y cwmni.

Fodd bynnag, nid iechyd corfforol gweithwyr yn unig sy’n cael blaenoriaeth. Mae Coaltown Coffee hefyd yn sicrhau eu bod yn gofalu am iechyd meddwl eu gweithwyr. Mae Scott yn esbonio:

Mae’n ymwneud â chyfathrebu. P’un a yw’n fater o weithredu peiriannau neu o wneud yn siŵr eich bod yn gwybod beth yw cyflwr meddwl rhywun, rydyn ni am i’r sgyrsiau lifo’n ôl ac ymlaen fel y gallwn gynnig y system gefnogaeth orau bosibl i’n tîm.

Mae Coaltown Coffee hefyd yn arwain trwy ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol. Maen nhw’n ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn dîm niwroamrywiol yn bennaf, ac meddai Scott:

Mewn gwirionedd, dwi’n ei weld e fel un o uwchbwerau’r cwmni

Mae’n amlwg nad yw Coaltown Coffee yn ystyried unrhyw anableddau fel cyfyngiad yn y gweithle - i’r gwrthwyneb. Mewn perthynas ag agwedd y cwmni o fewn y pennawd Gwaith Teg hwn, ychwanega Scott:

Mae’n agwedd sydd ar waith gyda ni bob dydd yn hytrach na pholisi ry’n ni’n cadw ato.

Mae hyd yn oed proses recriwtio’r cwmni yn ceisio bod mor gynhwysol â phosibl. Mae Scott yn esbonio nad yw’n ymwneud â’ch profiadau na’ch cymwysterau yn y gorffennol, mae’n ymwneud ag angerdd, ysgogiad ac awydd ymgeisydd i fod yn rhan o’r tîm. Ychwanegodd Scott:

Rydyn ni’n dîm clos yma ac yn ymdrechu i greu swyddi lleol i’r gymuned leol ac felly mae peidio â chreu unrhyw rwystrau o ran y broses recriwtio yn hanfodol.”

Sicrwydd a hyblygrwydd 

Mae’r system rheoli amser gweithwyr a ddefnyddir gan Coaltown Coffee yn arloesol, ac mae’n caniatáu ar gyfer ffurfiau annhraddodiadol o hyblygrwydd yn y gwaith. Dim mwy o stampio cerdyn i glocio i mewn, yn lle hynny mae popeth ar system AD sydd newydd gael ei rhoi ar waith, sef ap o’r enw Blip o BrightHR, sy’n cael ei lawrlwytho ar ddyfeisiau symudol gweithwyr. Gall aelodau’r tîm glocio i mewn ac allan yn ddigidol, trefnu gwyliau blynyddol trwy bwyso botwm ac mae gan bopeth o fewn y cwmni god QR fel y gall gweithwyr ddefnyddio eu ffonau i gael mynediad at ddolenni i wybodaeth berthnasol, gan gynnwys polisïau, prosesau a gwybodaeth weithredol gyffredinol sy’n berthnasol.

Parchu hawliau cyfreithiol

Mae Coaltown Coffee yn ymwybodol iawn nad yw’r diwydiant coffi wedi bod â’r enw gorau bob amser am fasnachu’n deg gyda ffermwyr ffa coffi ledled y byd. Gan arwain drwy esiampl, mae holl goffi Coaltown Coffee yn dod o ffynonellau moesegol ac yn unol â’r gofynion o ran cynaliadwyedd a masnach deg sy’n dod yn sgil ardystiad B-Corp. Mae Coaltown Coffee yn falch o fod yn rhan o’r datrysiad trwy annog sefydliadau partner i ddileu arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac anfoesol o fewn eu cadwyni cyflenwi.

Mae Coaltown Coffee hefyd yn sicrhau bod hawliau cyfreithiol eu gweithwyr yn cael eu parchu’n llwyr. Mae Scott yn esbonio:

“O’n gweithwyr uniongyrchol i bawb oedd yn gweithio ar hyd y gadwyn gyflenwi, roedd trin pawb yn gywir ac yn deg yn faen prawf enfawr er mwyn i ni gael ein hardystio gan B-Corp ac rydyn ni mor falch o’r safonau rydyn ni wedi’u gosod yn fewnol i sicrhau bod pawb yn teimlo bod eu hawliau’n cael eu parchu’n llwyr.

Manteision bod yn gyflogwr gwaith teg

Un o’r prif fanteision y mae Coaltown Coffee wedi’i ddarganfod o fabwysiadu egwyddorion Gwaith Teg yw eu llwyddiant aruthrol wrth gadw eu gweithwyr. Trwy fod yn gyflogwyr gwych a gwobrwyo a pharchu eu staff o fewn yr egwyddorion Gwaith Teg, maen nhw’n gallu cadw a datblygu eu gweithwyr. Mae hyn yn amlwg o’r ffaith fod y rhan fwyaf o dîm Coaltown Coffee wedi bod gyda’r cwmni am fwy na phedair blynedd, ac mae sawl aelod o’r tîm wedi bod yno ers y diwrnod cyntaf. Gyda balchder, mae Scott yn ychwanegu:

Cenhadaeth Coaltown Coffee oedd adfywio’r gymuned leol, ac wrth wneud hynny rydyn ni wedi adeiladu ein cymuned ein hunain yma. Rwyf mor falch bod popeth rydyn ni wedi buddsoddi ynddo o ran ein pobl ac o ran bod yn gyflogwr Gwaith Teg wedi dangos bod trin eich pobl yn iawn o fudd i’r busnes.”

Edrych tua'r dyfodol

Dros y flwyddyn nesaf, mae Coaltown Coffee yn bwriadu dyblu’r gweithlu gan agor caffis newydd, gan gynnwys un ym Mhontarddulais yn 2023.

Wrth baratoi ar gyfer y twf hwn, bydd cyfarwyddwr Coffi, Pobl a Diwylliant Coaltown Coffee, Josh, ar flaen y gad gan sicrhau bod yr holl weithwyr newydd yn cynefino â’r egwyddorion Gwaith Teg gyda’r holl adnoddau angenrheidiol ar waith.

Gan edrych i’r dyfodol gydag arferion newydd i sicrhau’r perfformiad gorau, mae Coaltown Coffee bob amser yn agored i newid. Mae popeth maen nhw’n ei wneud yn cyd-fynd â meddylfryd B-Corp o gyfyngu ar wastraff. Yr hyn sy’n arbennig o amlwg yw bod Coaltown Coffee yn ceisio gwella a dod yn fusnes mwy effeithlon yn barhaus, oherwydd yn y pen draw, mae’r arbedion effeithlonrwydd hynny’n gallu cael eu trosglwyddo ymlaen er budd eu gweithwyr a’u cwsmeriaid.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.