BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Green Heart Aromatics

Suzanne Burgess

Helpodd Grant Rhwystrau Busnes Cymru ofalwraig llawn amser o Geredigion i ddechrau ei busnes harddwch naturiol ei hun.

Llwyddodd Suzanne Burgess i oresgyn nifer o heriau a lansiodd ei busnes harddwch naturiol a chosmetigau, Green Heart Aromatics. Cysylltodd â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i ofyn am gymorth a llwyddodd i sicrhau arian drwy'r Grant Rhwystrau i helpu gyda chostau cychwyn busnes gan gynnwys pecynnu, dylunio labeli a datblygu gwefan. 

  • Sicrhawyd £2000 drwy Grant Rhwystrau Busnes Cymru.
  • Llwyddwyd i gychwyn y busnes.

Cyflwyniad i’r busnes

Mae Green Heart Aromatics, a sefydlwyd gan Suzanne Burgess yn Nhregaron, Ceredigion, yn fusnes harddwch naturiol a chosmetigau newydd sbon.

Pam wnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Gan fy mod yn ofalwraig llawn amser i fy mhlentyn anabl, bu'n rhaid i mi ddod o hyd i ffordd o wneud arian o gartref. Ddechrau'r llynedd, dechreuais gwrs ar-lein mewn Cynhyrchu Nwyddau Gofal Gwallt Organig gyda Formula Botanica. Fel rhan o fy mhrosiect terfynol, perffeithiais fy fformiwla unigryw i gynhyrchu bar siampŵ solet, organig, fegan wedi'i wneud gydag olewau naturiol, menyn a sylweddau botanegol llesol.

Roeddwn i'n hapus iawn gyda'r canlyniad a phenderfynais fy mod yn barod i lansio fy mrand gofal gwallt naturiol fy hun, Green Heart Aromatics, gyda'r bar siampŵ yn rhan o fy mhrif gasgliad. Y cyfan yr wyf wedi’i wneud yw cymryd camau bach i droi fy hobi a fy niddordeb mewn gwneud cosmetigau naturiol yn fusnes bach.

Pa heriau oeddech chi'n eu hwynebu?

Gan nad oeddwn am fynd i ddyled i ddechrau fy musnes, dim ond un cynnyrch yr wyf wedi llwyddo ei lansio – fy mar siampŵ sy'n gyflyrydd organig, fegan ac wedi'i becynnu mewn pecyn papur Kraft bioddiraddadwy. Mae hyn yn unol â fy ethos gwyrdd a glân i weithio mewn cytgord â'r amgylchedd.

Pam wnaethoch chi gais am Grant Rhwystrau Busnes Cymru?

Gan fy mod wedi bod yn ddi-waith ers 10 mlynedd ac yn ofalwraig llawn amser, penderfynais gychwyn fy musnes, gan weithio o gartref, ond roedd angen arian arnaf i'w sefydlu.

Fe wnes i gais am y Grant Rhwystrau i allu talu am y deunydd pacio – y pecyn papur Kraft ecogyfeillgar, wedi'i gynllunio'n arbennig gyda leinin sy'n gwrthsefyll olew bioddiraddadwy 100%. At hynny, roedd angen cyllid arnaf i orffen dylunio fy labeli, fy ngwefan ac ar gyfer argraffu. Oherwydd y pandemig presennol, alla i ddim dibynnu ar fy stondin farchnad i werthu fy nghynnyrch, felly byddai datblygu gwefan yn denu mwy o gynulleidfa i brynu fy mrand.

Canlyniadau

  • Sicrhawyd £2000 drwy Grant Rhwystrau Busnes Cymru.
  • Llwyddwyd i gychwyn y busnes 

Rhoddodd y Grant Rhwystrau gymhelliant i mi becynnu'r bar siampŵ a datblygu fy strategaeth farchnata i gynnwys y logo a'r wefan hollbwysig.
Oni bai am y Grant Rhwystrau, byddwn yn dal i wneud hyn fel hobi ond nawr rwy’n ystyried fy hun fel entrepreneur a pherchennog busnes bach. Mae hyn wedi rhoi gobaith imi a theimlad cryf o hunanwerth gan fod bywyd fel gofalwraig yn unig ac yn anodd.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol ac uchelgeisiau

Fy uchelgais yw datblygu fy nghasgliad o nwyddau gofal gwallt naturiol i gynnwys masg gwallt botanegol cyn golchi a chyflyrydd ôl-olchi ychwanegol.
Mae’r arian sydd ar gael yn cyfyngu faint o stoc y galla i ei brynu, felly bydd y busnes yn tyfu'n araf ac yn organig yn union fel yr oedd natur yn ei fwriadu!

Os ydych chi eisiau darllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.