BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Gwalia Healthcare

GWALIA

Mae busnes yn Nhrefforest wedi dod yn ôl ar ei draed ar ôl cael ei effeithio gan y llifogydd, drwy wneud hylif diheintio dwylo yn lleol, a chynhyrchu cyflenwad brys o 20,000 o boteli ar gyfer staff rheng flaen lleol.

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i sefydlu ym 1968, mae Gwalia Healthcare yn fusnes sy'n tyfu, sy'n arbenigo mewn cynhyrchu a chyflenwi cydrannau dyfeisiau meddygol a chydosod cynhyrchion fferyllol a meddygol.

Dan arweiniad y Rheolwr Gyfarwyddwr Rod Parker, mae'r busnes yn cynnig atebion gweithgynhyrchu a phecynnu contract pwrpasol ar gyfer cwmnïau gwyddorau bywyd byd-eang, haen ganol a chwmnïau gwyddorau bywyd sy'n dod i'r amlwg.

Pa heriau a wyneboch yn ystod argyfwng y Coronafeirws?

Yr her gyntaf i ni ei hwynebu oedd adfer ar ôl effaith dinistriol llifogydd mis Chwefror. Bu i Storm Dennis ddifrodi ein hoffer arbenigol yn llwyr, yn ogystal â'n cyfleuster hystafell lân, a rhoi stop ar waith Gwalia gyfan dros nos.

Yn ystod yr wythnosau wedi'r llifogydd, roeddwn yn benderfynol o weithio 24/7 a sicrhau nad oedd y gadwyn gyflenwi feddygol yn cael ei heffeithio. Rydym wedi buddsoddi amser ac adnoddau yn clirio, glanhau a dod o hyd i beiriannau newydd. Llwyddasom i ail-sefydlu 30% o'n gallu gweithgynhyrchu a bodloni 85% o'n harchebion.

Fodd bynnag, digwyddodd argyfwng arall yng nghanol hyn - y pandemig Covid-19. Hyd yn oed ar ôl dilyn cynllun ffyrlo CThEM, roeddem yn anobeithiol iawn am oroesi, a gwyddwn fod rhaid i mi fachu'r cyfle ac ail-bwrpasu gweithrediadau'r busnes gyda'r set sgiliau oedd gennym yn fewnol i gefnogi'r gymuned a Llywodraeth Cymru.

Nid oeddem yn gwneud hylifau diheintio na geliau dwylo cyn Covid-19, ond gan na fyddai nifer o'n cwsmeriaid diwydiannol angen eu harchebion gennym, penderfynasom ganolbwyntio ar gynhyrchu hylifau diheintio dwylo ein hunain.

Roeddem eisoes yn gallu cynhyrchu'r poteli gwag a dod o hyd i gel ac alcohol o fewn radiws 10-milltir. Bu i ni dderbyn galwad gan y Cyngor, oedd angen i ni gynhyrchu cymaint â phosib o hylif diheintio dwylo ar gyfer ei staff - a bu i ni gynhyrchu 12,000 o boteli brys yn ystod yr wythnos gyntaf. Roedd hynny heb linell lenwi, ac nid oedd gennym becyn dosbarthu gwasgu ar gyfer y cynnyrch.

Pa fesurau a weithredwyd gennych i fynd i'r afael â'r pandemig?

Bellach, rydym wedi creu llinell lenwi ac yn parhau i dderbyn nifer o ymholiadau gan gyrff cyhoeddus yn y DU. Rydym yn cwblhau'r broses yn fewnol - o weithgynhyrchu'r cynnyrch, caeadau a photeli, i lenwi a phecynnu, sy'n rhoi mantais i ni dros ein cystadleuwyr.

Mae'r cynnyrch yn teithio oddeutu 15 medr o un peiriant i'r llall, felly nid oes gwaith pecynnu a storio allanol. O ganlyniad i hyn, mae ôl-troed carbon y cynnyrch yn isel iawn.

Ar hyn o bryd rydym yn buddsoddi £500,000 i mewn i'n gallu cynhyrchu, gyda'r gallu i gyflenwi hyd at filiwn potel o gel ardystiedig bob wythnos - ac mae hyn wedi bod yn gatalydd ar gyfer creu 13 swydd newydd, gyda mwy ar y gorwel.

Sut mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru wedi helpu?

Mae Rheolwr Cysylltiadau Busnes Cymru, David Fisher, wedi bod yn cefnogi twf a datblygiad Gwalia Healthcare drwy archwilio a chynghori ar amrywiaeth o lwybrau datblygu. Yn dilyn cyngor ar ddull 2-gam at arloesi, roedd Gwalia yn gallu symud i'r cam cyfnod cynhyrchu, gan gyflogi 11 aelod o staff ychwanegol o ganlyniad uniongyrchol i'r ymyrraeth.

Yn ogystal, llwyddodd Rob i sicrhau £2,500 o grant Cymorth Llifogydd Busnes Cymru, oedd yn help iddynt dalu costau a biliau ar ôl y llifogydd.

Eich cyngor i fusnesau eraill yn ystod yr argyfwng hwn

Byddwn yn cynghori unrhyw berchennog busnes i gydio yn y cyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno iddyn nhw yn ystod y cyfnod heriol hwn. Addaswch ac arallgyfeiriwch i gynnyrch a marchnadoedd newydd gan gadw eich llygad ar y manteision hirdymor.

Waeth beth yw eich sefyllfa ariannol heriol, sicrhewch eich bod yn parhau'n gwmni moesol - bydd hyn yn helpu gyda ffyddlondeb a chadw cwsmeriaid ar ôl yr argyfwng, ac yn eich helpu chi i fod yn gystadleuol a mynd i'r afael â materion ansicr eraill megis Brexit.

Cofiwch wneud eich hun yn weladwy - mae'n rhaid i chi hysbysebu eich busnes er mwyn i gleientiaid ddod o hyd iddo.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.