BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Landscapes for Learning Ltd

Landscapes for Learning Ltd

 

Sefydlodd Craig Hill y cwmni Landscapes for Learning Ltd (Mud Kitchens Wales Ltd gynt) ym mis Tachwedd 2016 fel unig fasnachwr cyn ymgorffori'r busnes ym mis Ebrill 2017. Cyn sefydlu, treuliodd Craig 13 o flynyddoedd fel athro cynradd ac uwchradd, gan arbenigo ym maes cynorthwyo plant gyda phroblemau ymddygiad.

Mae Landscapes for Learning, sy'n cael ei redeg gan Craig a'i wraig, Gwenllian, yn darparu amrywiaeth gyfan o gyfleoedd dysgu gwahanol i blant, gan gynnwys chwarae synhwyraidd, dychmygol, creadigol ac archwiliol drwy greu deunyddiau chwarae tu allan fel "ceginau" bach, cytiau chwarae a llwyfannau perfformio.

Beth ddaru nhw

"Dechreuom Landscapes for Learning ar ôl sgwrs, digwydd bod, gyda'n ffrind, sy'n gweithio fel athro o fewn ysgol gynradd yng Nghaerdydd." Dywedodd hi wrthym fod ei hysgol wedi cael arolwg siomedig o ganlyniad i ddiffyg 'cyfleoedd chwarae blêr, ymchwiliol tu allan'.

Roedd y canlyniad hwn allan o’u rheolaeth, braidd, gan fod yr adnoddau sydd wedi cael eu dylunio i fodloni’r agwedd hon o ran dysgu hanfodol y blynyddoedd cynnar a phrosesau arolwg gorfodol, ymhell y tu hwnt i gyllideb gyffredin iawn yr ysgol.

Ymchwiliom y farchnad gan ddod o hyd i lawer o 'brosiectau paled' oedd wedi eu creu i wneud arian cyflym, heb ystyriaeth am hirhoedledd, diogelwch na dyluniad ergonomig addas. I'r gwrthwyneb i hyn, gwnaethom ddarganfod bod cwmnïau mawr yn codi prisiau afresymol, tu hwnt i gyllidebau ysgolion cynradd, meithrinfeydd a chanolfannau dydd heb lawer o arian. Roedd hyn yn eu cyfyngu i un darn o offer yn unig rhwng dau neu dri dosbarth a rhieni eisiau cefnogi addysg eu plant gartref.

Gan fod gennym gefndir mewn gweithio â phlant gydag anghenion addysgol ychwanegol, roeddem yn ymwybodol o fanteision addysgol chwarae synhwyraidd. Roeddwn yn sicr y gallwn ddylunio ac adeiladu gorsaf ddysgu ymchwiliol tu allan o safon uchel ac am bris fforddiadwy.

Gan ei fod wedi ail-hyfforddi fel saer ychydig o flynyddoedd yn ôl ac wedi gweithio ar ambell brosiect domestig, roedd Craig yn gweld hyn fel cyfle i lansio Landscapes for Learning.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

"Dwi'n credu, wrth edrych yn ôl, byddai'n well petawn i wedi holi am gyngor busnes yn llawer cynt na wnes i." Yn y diwedd, cynyddodd twf y busnes a'r gofyn yn hynod gyflym, roedd yn anodd bod ar y blaen ar adegau! Credaf y buasai wedi bod yn ddefnyddiol cael mwy o wybodaeth ynghynt ynglŷn â'r modd y mae busnes yn cael ei redeg, o ran cofrestriad TAW yn benodol. Mae hyn yn dipyn o newid i'w gymharu â'r ffordd yr oedd y busnes yn cael ei redeg hyd at yr adeg honno." - Craig Hill, Percenngo Landscapes for Learning Ltd.

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

"Y moment balchaf hyd yn hyn yw ymddangos ar Drangons' Den a sicrhau buddsoddiad gyda Peter Jones. Mae hynny wir wedi newid ein bywydau. Ymgeisais un noson yn fyrbwyll yn y foment, er mwyn ymddangos ar y rhaglen, yn gynnar yn 2018. Nid oeddwn yn disgwyl i unrhyw beth ddigwydd ar y pryd, felly rwy'n teimlo'n hynod o ffodus i gael buddsoddwr mor wych yn rhan o hyn."

Ydynt yn defnyddio’r iaith Gymraeg yn eu busnes

"Rydw i'n dysgu Cymraeg, ac mae Gwenllian, sy'n rhedeg y busnes hefo fi, yn siaradwr Cymraeg rhugl. Rydym yn gweld bod rhedeg y busnes yn ddwyieithog wedi bod yn fantais a budd enfawr i'r busnes, yn ogystal â chefnogi'r iaith Gymraeg yn gyffredinol. Rydym yn gweld bod cwsmeriaid yn teimlo'n llawer mwy cyffyrddus yn siarad gyda ni yn Gymraeg os mai hynny yw eu dymuniad. Rydym yn hynod falch ein bod yn gweithredu Landscapes for Learning drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg."

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Gan fod gan y busnes 140 o ysgolion a chanolfannau chwarae/meithrinfeydd ar eu rhestr cleientiaid a'u bod yn cael eu gweithredu o garej fach yng Ngogledd Llandaf, roedd Craig a Gwenllian eisiau ehangu i leoliad mwy, cyflogi ychydig o gyflogai newydd ac ehangu ystod eu cynnyrch a'u rhestr cleientiaid.

Cysylltodd y pâr â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i holi a oedd cefnogaeth fusnes ar gael i fusnes sy'n tyfu. Cynorthwyodd y Cynghorydd Busnes, Avan Williams, gyda'u cynllunio busnes a chyllidol a'u cyfeirio at gefnogaeth sgiliau arbenigol i archwilio cynlluniau prentisiaethau a recriwtio.

Roedd gan Craig bryderon am rywun arall yn copïo eu dyluniadau, felly fe gafodd gyngor gan Evan am IP a hawlfraint. Roedd y cynghorydd yn hanfodol yn ystod trafodaethau gyda Dragon's Den y BBC, sef ble cyflwynodd Craig ei gynnig gan sicrhau buddsoddiad £50,000 gan Peter Jones.

Dywedodd Craig: "Cwrddom gydag Evan ym Musnes Cymru cyn yr ymddangosiad Dragon's Den. Aethom i dderbyn cyngor am bob rhan o'n busnes, o reoli ein trethi a chyfrifon, i ddarganfod cyflenwyr newydd byddai'n fuddiol i weithio â nhw yn y dyfodol. Roedd yn gyfle perffaith i holi'r cwestiynau roeddem wedi bod eisiau eu gofyn erioed! Mae Evan wedi bod yn hynod o dda gyda ni, diolch yn fawr iawn iddo!"

Cyngor Dda

Dyma awgrymiadau ardderchog Landscapes for Learning ar gyfer unrhyw un arall sy’n dymuno dechrau neu dyfu eu busnes eu hunain:

  • gofynnwch am gyngor ar y daith Gall bobl sydd wedi bod yn eich sefyllfa o'ch blaen fod o gymorth i chi ar eich taith
  • peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi eich hun os ydych yn gwneud camgymeriad, dyna sut yr ydych yn dysgu ac yn mynd ymlaen i wella
  • byddwch yn gyfarwydd â'r hyn sy'n ddigon neu'n ormod i chi
  • hysbyswch eich cwsmeriaid am ddatblygiadau, gan roi gwybod am unrhyw oedi mewn digon o amser
  • dysgwch gymryd amser i ymlacio, a pheidio â meddwl gormod am waith ar ddiwedd diwrnod

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.