BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The Little Cheesemonger

The Little Cheesemonger

Siop gaws a deli artisan o fri yng ngogledd Cymru yn elwa o gefnogaeth Busnes Cymru i sicrhau dechreuad llwyddiannus.

Wedi'i sefydlu gan Gemma Williams yn y Rhyl yn 2017, mae The Little Cheesemonger yn siop gaws a deli artisan, sy'n cynnig amrywiaeth eang o gaws a nwyddau gourmet. Cysylltodd Gemma â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru pan benderfynodd sefydlu ei busnes ei hun ac ers hynny, mae wedi elwa o weithdai, cymorth ymgynghorol ac arweiniad mentor Busnes Cymru gwirfoddol.

  • dechrau llwyddiannus
  • creu swyddi
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes o £13,000
  • wedi gwneud gwelliannau o ran AD a chynaliadwyedd yn y busnes
  • wedi sefydlu perthynas lwyddiannus â mentor busnes

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi'i sefydlu gan Gemma Williams yn y Rhyl, mae The Little Cheesemonger yn siop gaws a deli arbenigol o fri, sy'n cynnig amrywiaeth eang o nwyddau artisan wedi'u dewis â llaw, gyda ffocws ar gaws o Gymru ac Ewrop.

Gyda phrofiad masnachu bwyd yn rhai o'r siopau caws mwyaf escgliwsif yng Nghaeredin, Caer a Chymru, sefydlodd Gemma ei busnes ei hun i gynnig detholiad o gawsiau gourmet, platiau i'w rhannu a hamperi moethus, drwy gyrchu'r cynnyrch artisan gorau i bobl sy'n frwd dros fwyd.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Tyfais i fyny mewn teulu o entrepreneuriaid. Roeddwn bob amser yn credu y byddwn yn un. Ar ôl byw mewn ardal sy'n ferw o fwydgarwyr am 10 mlynedd yng Nghaeredin, symudais i'r Rhyl lle nad oeddwn yn gallu cael gafael ar y math o gaws a bwyd artisan yr oeddwn wedi dod i arfer ag ef.

Cefais fy niswyddo gan fy nghyflogwr blaenorol ac yna meddyliais: beth sydd gennyf i'w golli? Dechreuais y broses drwy gysylltu â Busnes Cymru a chael cymorth i ddatblygu cynllun busnes. Nid oedd siop ffisegol yn rhan o'r darlun tan ryw flwyddyn a hanner yn ddiweddarach.

Pa heriau a wyneboch?

Cael gafael ar gyllid oedd yr her fwyaf a wynebais. Dim ond swm bach iawn o gynilion oedd gennyf, felly cefais fenthyciad dechrau busnes gyda chymorth Busnes Cymru. Roedd angen help arnaf hefyd gyda datblygu fy sgiliau marchnata, felly mynychais gwrs Cyflymu Cymru i Fusnesau i helpu gyda hyn.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Gemma â Busnes Cymru am gymorth gyda sefydlu ei syniad busnes. Wedi derbyn cymorth ymgynghorol i gael gafael ar gyllid, datblygu ei chynllun busnes a rhoi ei pholisïau cynaliadwyedd ac AD ar waith, cyfarfu Gemma â mentor busnes gwirfoddol, Paul Cartwright, sy'n gweithio gyda hi ar strategaeth dwf The Little Cheesemonger.

Canlyniadau

  • dechrau llwyddiannus
  • creu swyddi
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes o £13,000
  • wedi gwneud gwelliannau o ran AD a chynaliadwyedd yn y busnes
  • wedi sefydlu perthynas lwyddiannus â mentor busnes

Rwyf wedi cael llu o wybodaeth a chymorth gan Busnes Cymru. Maent wedi fy nghofrestru ar gyrsiau, rhoi cymorth a mentora busnes i mi. Rwy'n gwerthfawrogi'r holl gymorth yn fawr gan fod pob perchennog busnes angen help gan rywun sy'n gallu rhoi cyngor i chi heb fod â diddordeb mewn buddsoddi. Rwy'n dal i dderbyn cymorth nawr pan rwyf ei angen ac yn cadw llygad ar gyrsiau a all fod yn ddefnyddiol.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rwyf eisiau tyfu'r busnes i gael mwy o gyfleusterau, a fydd yn fy ngalluogi i ddarparu mwy o wasanaethau a chynnyrch. Gyda chymorth fy mentor, rwy'n bwriadu archwilio pob opsiwn a chynllun a'i roi i lawr ar ddu a gwyn.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.