BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

LouMor Gowns

LouMor Gowns

Entrepreneur ffasiwn o Abertawe yn goresgyn llu o heriau i agor ei siop ffrogiau gan gynllunwyr ei breuddwydion yng Ngorseinon.

Mae LourMor Gowns yn siop gynllunydd arbennig, yn cyflenwi ffrogiau a gynau ar gyfer amrywiaeth o achlysuron, yn cynnwys promiau, ymddangosiadau ar y teledu a'r carped coch. Cysylltodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Louise Morgan â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ar ddechrau ei thaith busnes ac ers hynny mae wedi lansio LourMor Gowns yn llwyddiannus, gan greu 5 swydd newydd.

  • cymorth dechrau busnes a chyngor ar gynaliadwyedd
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes o £10,000

Cyflwyniad i'r busnes

Gyda 25+ mlynedd o brofiad yn gweithio y tu ôl i'r llen ac yn addysgu harddwch, colur, 'catwalk'  a ffasiwn ledled y DU, penderfynodd Louise Morgan sefydlu ei busnes ei hun yng Ngorseinon, Abertawe, yn stocio a gwerthu ffrogiau a gynau o ansawdd dda, wedi'u dewis gan gynllunwyr ledled y byd, yn cynnwys Pia Michi, Jasz Couture, Alyce Paris, Flair Prom a llawer mwy.

Mae'r busnes yn arbenigo mewn ffrogiau prom, pasiant, coctel, nos a phriodas, yn ogystal ag ymddangosiadau ar y teledu a'r llwyfan.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Heb swydd ac efo mab anabl doeddwn ddim yn medru hawlio unrhyw beth na chael unrhyw gymorth, felly mi wnes i gyrraedd y pwynt isel o fy mywyd.  Er yn wael iawn fy iechyd, cefais swydd ran-amser mewn siop gardiau. Roedd gan y perchennog yno adeilad gwag ar gael, felly gofynnais iddo a allwn rentu'r lle. Ac fe gytunodd!

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf oedd ceisio ymdopi â rhedeg busnes ar fy mhen fy hun a bodloni ymrwymiadau teuluol, a gorfod cadw dau ben llinyn ynghyd yn ariannol wrth i mi dyfu'r busnes.

 Lluniais gynllun busnes ac es ati i ganfod pa gymorth y gallwn ei gael. Fodd bynnag, ni allwn wneud cais am grant dechrau busnes oherwydd fy mod wedi dechrau gweithio 16 awr yr wythnos. Sefydlwyd cytundeb bond lle gefais 3 mis yn ddi-rent i addurno'r adeilad yn gyfan gwbl. Yn sgil hyn, roedd fy arian i gyd yn mynd tuag at gostau adnewyddu. Gweithiais saith diwrnod yr wythnos, 16 awr y dydd ar fy mhen fy hun heb gymorth.

Cefais fenthyca £2,000 gan gyfaill i brynu'r ffrogiau cyntaf. Roeddwn wedi ymlâdd ac wedi blino'n feddyliol ar brydiau, yn enwedig pan oeddwn wedi gwthio fy hun i'r eithaf i roi trefn ar bethau. Methais fy nhymor 1af o bromiau, a'm gadawodd â nifer isel iawn o werthiannau yn fy mlwyddyn 1af o fasnachu.

Her arall oedd gweithio ar gyllideb fechan a cheisio sefydlu fy enw yn Abertawe a deuthum ar draws rhwystrau yn fy atal rhag hysbysebu'r busnes ar gyfryngau cymdeithasol.

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Louise â Busnes Cymru oherwydd bod ganddi syniad busnes i agor siop ffrogiau gan gynllunwyr yn ardal Abertawe ac roedd angen cymorth arni i wireddu hynny.

Mynychodd weithdy dechrau busnes ac, wedi hynny, fe gafodd gymorth gan Reolwr Perthnasoedd Busnes Cymru, Angela Williams, a roddodd gymorth gydag ystod eang o faterion dechrau busnes, yn cynnwys dod o hyd i gyllid, marchnata a recriwtio am y tro cyntaf.

Canlyniadau

  • lansiad llwyddiannus
  • cymorth dechrau busnes
  • cymorth cynaliadwyedd gyda dyluniad y siop
  • sicrhau benthyciad dechrau busnes o £10,000
  • wedi creu 5 swydd newydd

Bu i'm Rheolwr Perthnasoedd Busnes Cymru, Angela, fy rhoi mewn cyswllt â phobl eraill o fewn Busnes Cymru i'm helpu i sicrhau benthyciad a sefydlu'r busnes. Rhoddodd gymorth emosiynol i mi pan oeddwn yn teimlo fel rhoi'r ffidil yn y to a rhoddodd anogaeth gadarnhaol i mi. Bu iddi fy nghefnogi gyda fy ngweithgareddau marchnata a mynychais weithdy yn seiliedig ar sut i ddechrau busnes.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mewn cwta 18 mis, mae LouMor Gowns wedi tyfu i fod y siop ffrogiau prom fwyaf yng Nghymru gyda dros 2,000 o ffrogiau. Roeddwn wedi rhagweld y byddai hyn yn digwydd cyn pen 5 mlynedd ac fe'i cyflawnais mewn blwyddyn a hanner.

Rwyf eisoes wedi cyflogi 4 aelod o staff, roedd un ohonynt wedi colli'i swydd ar ôl 17 mlynedd o weithio mewn ysgol, ac mae bellach yn fy helpu i redeg y busnes.

Erbyn 2021, hoffwn brynu fy adeilad fy hun a symud i mewn iddo.

Rwyf hefyd yn gweithio tuag at gael fy rhaglen deledu fy hun gan fod enwogion yn prynu fy ffrogiau ar gyfer ymddangosiadau ar lwyfannau. Yn ogystal, rwyf yn eu helpu gyda'u gwallt a cholur, a oedd yn rhan o'm gyrfa flaenorol am 27 mlynedd yn y byd Colur a Harddwch.

Rwy'n ymdrechu i ddarparu amgylchedd gweithio hapus i'm gweithwyr, lle maent i gyd yn gweithio'n llawn amser ac yn edrych ymlaen at ddod i'r gwaith bob dydd. Hoffwn greu amgylchedd sy'n ddi-straen i'm gweithwyr a chwsmeriaid.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.