BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Lyan Packaging Supplies Ltd

Lyan packaging

Mae Lyan Packaging Supplies Ltd., sydd wedi ei leoli yn Wrecsam, yn gweithredu ers dros 30 mlynedd ac yn arbenigo mewn darparu pecynnu cludo, gan gynnwys pecynnu wedi ei reoli gyda thymheredd drwy eu hadran Icertech:

Cysylltodd y Rheolwr Cyfarwyddwr, Adam Jones, gyda gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth i ehangu ei restr o gleientiaid, gan arwain at:  

  • gymorth rheoli perthynas gyda strategaeth dwf
  • cyngor arbenigol Adnoddau Dynol i adolygu a gwella prosesau ac ymarfer
  • creu 2 swydd a gwella cadw, ymgysylltiad a bodlonrwydd staff
  • achrediad 'Buddsoddwyr mewn Pobl'

Sefydlwyd yn 1988 yn Wrecsam, mae Lyan Packaging Supplies Ltd. yn gyflenwr blaenllaw mewn datrysiadau pecynnu unigryw. Mae'r busnes teuluol yn arbenigo mewn cludo pecynnu, cynnig amrywiaeth o ddeunyddiau pecynnu, o stoc neu weithgynhyrchiant i ateb gofynion penodol y cwsmer. Mae gan y busnes adran fasnachu, Icertech, sydd yn arbenigo mewn danfon nwyddau wedi eu rheoli gan dymheredd.

Beth aethoch chi ati i'w gyflawni yn eich busnes?

Ein hamcan pennaf oedd gwella ein strategaeth recriwtio a chadw staff newydd, er mwyn cefnogi twf a datblygiad o fewn yr adran Icertech.

Pa heriau a wyneboch?

Nid ydym wedi bod yn llwyddiannus wrth recriwtio o'r blaen, er bod gennym griw o staff teyrngar sydd yn gweithio'n galed. Roeddem yn cael trafferth denu a chadw'r math cywir o dalent ac roeddem yn amau fod hyn yn digwydd yn sgil cynnwys yr hysbysebion swyddi a'r broses recriwtio.

Roedd yn amlwg ein bod angen gwella ein strategaeth recriwtio a chynefino, ynghyd â rhai o'n hymarferion Adnoddau Dynol. Fel busnes bach, nid oedd gennym staff presennol gyda phrofiad Adnoddau Dynol gwych, ac roeddem yn ansicr ynghylch pwy i droi atynt, felly aethom at Busnes Cymru am gefnogaeth.

Pa gymorth Busnes Cymru ydych chi wedi'i dderbyn?

I ddechrau arni, cawsom gyfarfod cyffredinol gyda'n Rheolwr Perthynas Rowan Jones, i drafod ein strategaeth dwf a’n datblygiad fel cwmni. Roedd Rowan yn hynod gyfeillgar, rhoddodd gyngor ymarferol i ni, ac ar ôl targedu ble roeddem angen help, rhoddwyd ni mewn cysylltiad ag ymgynghorydd Adnoddau Dynol arbenigol, Lowri Dundee, oedd â'r union arbenigedd oedd ei angen arnom.

Adolygodd Lowri ein proses recriwtio bresennol, gyda'r bwriad o ddenu’r ansawdd cywir o ymgeiswyr a lleihau risgiau posib. Edrychodd Lowri ar ein proses gynefino er mwyn cadw staff. Buom yn archwilio meysydd eraill o reolaeth Adnoddau Dynol y gallem eu datblygu, megis GDPR ac ymgysylltiad cyflogai i wella ein cynhyrchiant. Yn olaf, rhoddodd Lowri ni mewn cysylltiad â sefydliad o'r enw ‘Chwarae Teg’ i wella ein hymarferion Adnoddau Dynol ymhellach gydag ystyriaeth benodol ar gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Canlyniadau

Mae'r help rydym wedi ei dderbyn gan Busnes Cymru wedi bod yn broffesiynol, cyfeillgar ac yn gryno bob amser. Ers defnyddio'r gwasanaeth, rydym wedi gwneud gwelliannau eithriadol i'n prosesau Adnoddau Dynol, fydd yn cael effaith ariannol gadarnhaol ar ein busnes. Yn benodol, rydym wedi cyflawni ein hamcanion i recriwtio a chadw aelod newydd o staff (mae’n yn parhau i weithio i'r cwmni 8 mis yn ddiweddarach), ac rydym newydd recriwtio aelod newydd o staff ychwanegol i gefnogi twf ein busnes.

Yn ogystal, ers i ni ryngweithio gyda Busnes Cymru, rydym hefyd wedi ennill achrediad 'Buddsoddwyr mewn Pobl' o dan y fframwaith newydd.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rydym eisiau parhau i gyflawni twf cynaliadwy, hirdymor yn y busnes drwy ddatblygu ein hased pwysicaf - ein staff. Rydym yn amcanu i gwblhau ein rhaglen gyda Chwarae Teg eleni, er mwyn dod yn gyflogwr 'Fair Play' o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth. Rydym hefyd yn amcanu i gyflawni lefel nesaf 'Buddsoddwyr mewn Pobl' yn ein hail-achrediad nesaf.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant o sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.