BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Markertech UK Ltd

Markertech UK Ltd

 

Markertech UK Ltd yw'r Dosbarthwr arbenigol ac Asiant Gwasanaeth y DU ar gyfer Systemau Argraffu Weidmuller. Wedi ei sefydlu yn 2007, mae'r busnes yn gwerthu a rhentu argraffwyr Weidmuller, ac yn cadw casgliad sylweddol o ddefnyddiau traul a marcwyr yn eu huned sydd ar gyrion Crug Hywel, Powys.

Mae Markertech UK hefyd yn cynnig Gwasanaeth Argraffu Marcio Personol dros y casgliad cyfan o gyfryngau argraffu Weidmuller. Mae'r cwmni’n gyfrifol am reoli'r stoc fwyaf o'r cynnyrch yma yn y DU, gan eu gwneud nhw'n arweinwyr marchnad yn eu maes.

Pa heriau a phroblemau posibl yr oeddech chi'n eu hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd Brexit?

Mae Weidmuller yn gwmni o’r Almaen, sy'n danfon yn ddyddiol i'r DU ar hyn o bryd. Fel arfer, rydym y derbyn danfoniadau stoc a chydrannau o'r Almaen oddeutu 3 gwaith yr wythnos. Er ein bod ni'n cadw stoc sylweddol, mae'r amrywiaeth o gynnyrch yn helaeth, ac yn syml, nid oes gennym ddigon o le i gadw’r cyfan o'r hyn sydd ei angen arnom.

Yn unol â threfniadau presennol yr UE, mae gan Weidmuller oddeutu 3000 o ddanfoniadau didrafferth unigol yn dod i mewn i'r DU bob wythnos. Fodd bynnag, un o'r bygythiadau y byddwn yn ei wynebu wedi Brexit, yw clirio drwy’r tollau a/neu bod yn destun tariffau. Byddai hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i ddanfon nwyddau a chostau. Oherwydd hyn, dywedodd Weidmuller wrthym eu bod yn bwriadu cyfuno'r danfoniadau i un llonglwyth yr wythnos i'r DU, yn dilyn Brexit. Byddai'r llwyth yn mynd i ganolfan ddosbarthu leol yn y DU, gan droi 3000 o gliriadau yn y dollfa yn un, a chyflymu'r broses ddanfon. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i ni gynyddu ein stoc 3 neu 4 gwaith i allu parhau â'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu heddiw....gan gofio mae ein lefelau gwasanaeth ac amser ymateb yw ein USP. Er mwyn ein cefnogi, mae Weidmuller wedi cyhoeddi y bydden nhw'n ystyried cynnig telerau cyflog gwell os byddwn yn cynyddu ein lefelau stoc. Ond, o gofio’r trefniadau presennol, byddai'n anodd cadw stoc o'r maint yma yn ein huned.

Ar yr un pryd, rydym yn archwilio buddsoddiad mewn peiriant engrafu laser newydd a fydd yn helpu gydag effaith Brexit ar ein busnes mewn dwy ffordd:

1. Mae gan y peiriant engrafu laser y gallu i gyflwyno cyfleoedd refeniw newydd gyda'n cwsmeriaid presennol a marchnadoedd eraill.

2. Bydd y peiriant engrafu yn cyd-fynd â rhai o'r cynnyrch sydd yn cael eu prynu gan Weidmuller.

Eich rhesymau dros ymgeisio am y Grant Cydnerthedd Brexit: pa brosiectau fydd yn elwa o'r grant hwn a sut ydych chi'n credu y bydd y gronfa yn eich helpu i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil Brexit?

Gan ein bod ni'n wynebu'r bygythiadau a'r cyfleoedd hyn, buom yn gweithio gyda'n Rheolwr Cysylltiadau Busnes Cymru ac Arbenigwr Arloesi Llywodraeth Cymru i archwilio'r buddsoddiadau arfaethedig, ac i edrych ar eu manteision unigol a chyfunol. O ran y Grant Cydnerthedd Brexit, bydd y cymorth yr ydym wedi ei dderbyn yn cael ei fuddsoddi mewn cynyddu maint ein stordy Markertech UK yn ein huned yng Nghrug Hywel, gan gynyddu ein daliad stoc bedair gwaith. Yn ogystal, byddwn yn datblygu adran ar gyfer Engrafu Laser o fewn y cyfleuster presennol. Bydd hyn yn digwydd drwy osod llawr Mezzanine a racio newydd gydag ystafell islaw i gadw'r peiriant engrafu, nwyddau ychwanegol a'r offer cysylltiedig.

Mae gennym 25 mlynedd o arbenigedd gyda chasgliad cynnyrch systemau argraffu Weidmuller, a ni yw'r unig ganolfan gwasanaeth a chymorth yn y DU. Ar hyn o bryd rydym yn cadw'r stoc fwyaf yn y DU, sydd yn egluro pam ein bod ni'n derbyn busnes ein cwsmeriaid. Bydd y prosiect hwn yn galluogi'r cwmni i gynyddu ei stoc 4 gwaith, gan liniaru'r bygythiad o ohiriadau a/neu gostau uwch. Bydd hefyd yn ein galluogi i ddatblygu'r cyfleuster i gadw a gwneud y mwyaf o'r peiriant engrafu laser, sydd yn lleihau ein dibyniaeth ar rai o'r casgliad cynnyrch o'r Almaen.

Cafodd y buddsoddiad yn y peiriant engrafu laser gefnogaeth gan Daleb Arloesi Llywodraeth Cymru, ond roedd yn bwysig bod yr holl fuddsoddiad yn cael ei archwilio, felly roedd yn ymdrech wirioneddol gan yr holl dîm i yrru hyn yn ei flaen.

Unrhyw adborth sydd gennych o bosib ynglŷn â'ch ymgysylltiad â gwasanaeth Busnes Cymru a'r cymorth a gawsoch

Mae'r cymorth a'r gwasanaeth yr ydym wedi ei dderbyn wedi bod yn arbennig, yn enwedig yr amser y treuliom gyda'n Rheolwr Cysylltiadau Steve Maggs, a'n Harbenigwr Arloesi Chris Probet, sydd wedi ein harwain drwy'r broses.

Cyfranogiad Busnes Cymru

Cafodd Markertech UK eu cyflwyno i Busnes Cymru gan Arbenigwr Arloesi Llywodraeth Cymru, er mwyn derbyn cyngor gyda chynllunio busnes cyn buddsoddi mewn technoleg engrafu laser. Bu Rheolwr Cysylltiadau Busnes Cymru, Steven Maggs yn cynorthwyo gyda'u cynllun busnes a'u cais am Daleb Arloesi Llywodraeth Cymru, a oedd yn llwyddiannus. Cawsant £25,000 i gefnogi buddsoddiad gwerth £50,000 mewn offer engrafu laser.

Ar yr un pryd, nodwyd bod y bygythiadau yn sgil Brexit yn golygu bod angen ychwanegu cyfleuster storio i gadw cydrannau a ddaw o'r Almaen, yn ogystal â chynllun i ychwanegu cyfleuster storio a hyfforddiant penodol.  Helpodd Steve i greu cais Grant Cydnerthedd Brexit llwyddiannus am £13,000 tuag at fuddsoddiad ychwanegol o £26,000. Mae Markertech UK yn bwriadu recriwtio 4 aelod newydd o staff dros y 6 mis nesaf yn y meysydd gwerthu, marchnata a chynhyrchiant. Maent hefyd yn derbyn cefnogaeth gan gynghorwr Adnoddau Dynol a Chynaliadwyedd Busnes Cymru.

 

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.