BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The Micro Greengrocer

The Micro Greengrocer

Fferm drefol ym Mhenarth, De Cymru, yn lansio i annog y defnydd o fwyd organig a maethlon sydd wedi’i dyfu’n gynaliadwy. 

Dechreuodd Micro Greengrocer, fferm drefol gynaliadwy, fasnachu ym mis Ionawr ar ôl i’r perchennog Amanda Wood benderfynu troi’n ôl at ei hen sgiliau a dechrau tyfu meicrofwyd gwyrdd organig. Gyda chefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, llwyddodd Amanda i sicrhau cyllid, gan gynnwys £1,980 gan Grant Rhwystrau Busnes Cymru, er mwyn lansio’r busnes yn llwyddiannus ddechrau 2021.

  • Dechrau da.
  • Wedi creu 1 swydd.
  • Wedi sicrhau £1,980 gan Grant Rhwystrau Busnes Cymru.
  • Wedi sicrhau £3,000 gan Purple Shoots.
  • Wedi cofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru er mwyn cynnig gwasanaeth cynaliadwy sy’n ystyried yr amgylchedd.

Cyflwyniad i’r busnes

Fferm drefol, cynaliadwy a bychan yw Micro Greengrocer sy’n tyfu ystod o feicrofwyd gwyrdd maethlon gan ddefnyddio hadau organig yn unig a chompost organig heb fawn lleol, nad ydynt yn cynnwys gwrtaith na phlaleiddiaid.  

Rhannodd y perchennog, Amanda Wood, ei thaith fusnes gyda ni - o swydd greadigol ym maes addysg i fynd yn ôl at ei chariad ac angerdd dros dyfu bwyd.

Pam y gwnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Penderfynais sefydlu busnes yn tyfu meicrofwyd gwyrdd yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Ro’n i’n gweithio o bell o gartref fy mhartner gan ein bod wedi penderfynu mynd i mewn i’r cyfnod clo gyda’n gilydd, ar ôl cyfnod o hunanynysu pan ddaliais i’r feirws ym mis Mawrth 2020. Roedd fy nghontract cyflogaeth ar fin dod i ben, felly ro’n i’n pendroni o ran beth i’w wneud nesaf. Ro’n i’n gwybod nad oeddwn eisiau parhau i weithio mewn rôl debyg, a ro’n i’n ysu i wneud rhywbeth hollol wahanol gyda fy sgiliau, rhywbeth mwy holistaidd oedd yn canolbwyntio ar y gymuned. Ond ni allwn feddwl am unrhyw beth!

Un diwrnod, wrth weithio ar fy ngliniadur yn edrych allan ar yr ardd ac yn gweld eisiau treulio amser y tu allan, sylweddolais mai’r hyn yr oeddwn i’n ei golli oedd tyfu planhigion - yn enwedig y rheiny y gallwch chi eu bwyta. Roedd hyn yn freuddwyd mawr bryd hynny gan fod yr ardd wrthi’n cael ei dymchwel cyn prosiect tirlunio mawr, ac roedd yn edrych yn union fel safle adeiladu! Ond ni fyddai hynny’n rhoi stop arna’ i!

Cofiais fy mod i’n arfer tyfu hadau blaguro ar y silff ffenestr flynyddoedd yn ôl, felly penderfynais drawsffurfio pob silff ffenestr yn nhŷ fy mhartner yn feicro-ardd! Des i â’r tu allan y tu mewn ac roedd gennym ddigonedd o feicrofwyd gwyrdd maethlon, ffres a blasus, oedd yn ased go iawn yn ystod y misoedd cyntaf o’r cyfnod clo pan roedd yr archfarchnadoedd yn lleoedd brawychus i fynd iddynt.

Ro’n i’n hoffi fy mod i’n dechrau cofio hen sgiliau. Pan adawais yr ysgol, es ymlaen i astudio Garddwriaeth ac yna Blodeuyddiaeth, a gweithiais yn y diwydiant hwnnw am sawl blwyddyn nes i mi symud ymlaen i ddilyn gyrfa greadigol ym maes addysg gyda BA mewn Celfyddyd Ffilmiau a chwrs TAR.

Fodd bynnag, ar ôl treulio amser llwyddiannus yn arwain prosiectau a rhaglenni yn y celfyddydau, daeth i’r amlwg yn ddigon sydyn fy mod i eisiau mynd yn ôl i’m gwreiddiau ac adfywio fy sgiliau garddwriaeth a’m cariad at dyfu bwyd. ‘Dw i’n gwirioni ar goginio gyda chynhwysion maethlon a ffres ac yn ystod y cyfnod clo, dechreuais astudio Llysieuaeth Feddygol, felly roedd popeth i weld yn berthnasol i’w gilydd. Roedd fel fy mod wedi mynd yn ôl i ble ddechreuais i, ond byddai’r wybodaeth a’r sgiliau creadigol a gefais ar hyd y ffordd yn helpu fy musnes i ddwyn ffrwyth. Pan ddaeth fy swydd addysgol i ben fis Medi 2020, roedd gen i ryw fath o gynllun busnes yn barod.

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Nes i benderfynu trochi mewn ymchwil ac arbrofi i ddatblygu fy nhechnegau a’m gweithrediadau, a ro’n i’n gwybod fy mod i’n benderfynol, a fy mod i’n credu yn yr hyn roeddwn i’n ei wneud ac yn angerddol drosto. Y brif her yr oedd angen i mi ei hwynebu oedd dod o hyd i’r cyfalaf i sefydlu’r busnes. Ro’n i wedi gwario llawer o fy nghynilion ar brynu popeth oedd ei angen er mwyn ymarfer redeg fferm feicro, ond er mwyn symud ymlaen i’r cam nesaf, roedd angen cyllid. Er bod gen i gefnogaeth fy mhartner, fy nheulu a’m ffrindiau, ro’n i’n gwybod bod angen cefnogaeth broffesiynol arna’ i er mwyn cymryd y busnes o ddifrif.

Cefnogaeth Busnes Cymru 

  • Dechrau da.
  • Wedi creu 1 swydd.
  • Wedi sicrhau £1,980 gan Grant Rhwystrau Busnes Cymru.
  • Wedi sicrhau £3,000 gan Purple Shoots.
  • Wedi cofrestru ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru er mwyn cynnig gwasanaeth cynaliadwy sy’n ystyried yr amgylchedd.

Gwelais hysbyseb Busnes Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol wrth ymchwilio ar-lein, a phenderfynais gysylltu. Yn sydyn, roedd holl ddarnau’r jigsô yn dechrau dod at ei gilydd a ro’n i’n gallu dechrau’r daith o gymryd fy syniad busnes o ddifrif gydag ymgynghorwyr Busnes Cymru. Ar ôl gweminar gychwynnol, wnaeth roi help go iawn i mi o ran ymchwilio fy syniadau busnes ymhellach, cefais fy nghyfeirio at fy ymgynghorydd busnes, Alun Wade.

Roedd Alun yn hanfodol bwysig o ran fy helpu i greu’r cynllun busnes. Byddem yn cael cyfarfodydd rheolaidd yn trafod fy nghynnydd, ac yn gosod targedau, fel bod gen i rywbeth clir i weithio tuag ato cyn ein cyfarfod nesaf. Roedd hi’n braf gallu siarad â rhywun oedd yn arbenigo mewn busnesau newydd. Rhoddodd Alun gysylltiadau a gwybodaeth wych i mi, a gwnaeth fy arwain drwy bob proses a’r pethau ymarferol yr oedd angen i mi ystyried er mwyn sefydlu’r busnes. Helpodd i ddod o hyd i fenthycwyr addas, fel bod modd i mi sicrhau’r cyllid oedd ei angen. Gyda’i gefnogaeth, derbyniais fenthyciad busnes bychan yn eithaf sydyn gan Purple Shoots.

Roedd moeseg a gweithrediadau Purple Shoots wir yn addas i fy ngwerthoedd i, a gwerthoedd fy musnes. 

Rhoddodd Alun gefnogaeth i mi hefyd i wneud cais am Grant Rhwystrau Busnes Cymru. ‘Dw i wir wedi gwerthfawrogi ei gefnogaeth, ni chawsom gwrdd wyneb yn wyneb oherwydd y cyfyngiadau, ond ro’n i’n teimlo fod ei anogaeth yno o hyd. O ran fy musnes newydd, gall fod wedi bod yn stori wahanol iawn pe na fyddai cefnogaeth Busnes Cymru ar gael - yn enwedig yn y cyfnod sydd ohoni lle gallwn oll deimlo’n eithaf unig ac wedi’n hynysu. Gwnaeth Alun fy atgyfeirio at Gyflymu Cymru i Fusnesau, er mwyn cael cefnogaeth farchnata ddigidol ychwanegol er mwyn helpu fy ngwefan a’m platfformau ar-lein i gyrraedd y sail gwsmeriaid yr wyf yn ei thargedu.

Cynlluniau ac uchelgeisiau yn y dyfodol

‘Dw i bellach yn masnachu ac yn teimlo’n gyffrous iawn am y dyfodol. Flwyddyn yn ôl, ro’n i mewn sefyllfa wahanol iawn, a nawr mae gwybod y bydd gennyf gefnogaeth barhaus gan Alun a’i dîm yn ychwanegu egni gwych i’m busnes newydd.

Mae gen i lawer o dargedau i The Micro Greengrocer, ond fy nghynlluniau ar hyn o bryd yw parhau i weithio’n galed i adeiladu enw a gwasanaeth da o fy fferm ym Mhenarth ac adeiladu sail gwsmeriaid cryf sydd eisiau prynu bwyd lleol, ffres a maethlon gan fusnes sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Hoffwn gael prentis pan fydd pethau’n dechrau siapio, gyda’r gobaith o gynnig swydd i’r person hwnnw a phobl eraill, gobeithio. Yn y pen draw, hoffwn gyflogi rheolwr fel bod modd i mi ganolbwyntio ar dyfu fferm arall mewn ardal arall, a pharhau i dyfu The Micro Greengrocer ledled Cymru a’r De Orllewin. O hadau bach…  

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.