BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Mindset Functional Fitness

Mindset Functional Fitness
Cyn Fôr-filwr yn gwireddu breuddwyd drwy lansio busnes ffitrwydd yn Nhrefforest gyda chymorth Busnes Cymru.
 
Cychwynnodd Neil Adams ei fusnes Mindset Functional Fitness i gynnig dosbarthiadau a chyfleusterau campfa i bobl leol i helpu eu llesiant corfforol a meddyliol. Derbyniodd gymorth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i gychwyn fel unig fasnachwr, ac yna i lansio ei gwmni cyfyngedig. Nawr, mae'n gweithio gyda Busnes Cymru i archwilio ffyrdd i dyfu'r busnes ymhellach drwy fasnachfreintio ledled y DU.
 
  • dechrau llwyddiannus
  • creu 3 swydd
  • cymorth twf i ddatblygu'r busnes ymhellach

Cyflwyniad i'r busnes

Yn dilyn gyrfa fel Comando Môr-filwr, penderfynodd Neil Adams gamu i hunangyflogaeth a chychwyn ei fusnes hyfforddi ei hun. Lansiodd I-Kan Fitness ym Mhont-y-pŵl yn 2014 i helpu gweithwyr proffesiynol prysur, perfformiad uchel wella eu hiechyd, ffitrwydd a meddylfryd.

Ers hynny, mae wedi tyfu'r fenter yn gwmni cyfyngedig, Mindset Functional Fitness, yn Nhrefforest, sy'n cynnig cyfleusterau a dosbarthiadau campfa, yn ogystal â helpu pobl i orchfygu PTSD a gorbryder drwy ffitrwydd gweithredol.    
 

Pam wnaethoch chi benderfynu cychwyn eich busnes eich hun?

Cychwynnais Mindset Functional Fitness oherwydd fy mod wedi breuddwydio am redeg fy musnes fy hun a'i wneud yn llwyddiant ysgubol drwy fy ymdrechion fu hun.
 

Pa heriau a wyneboch?

Mae nifer o heriau wedi codi yn ystod y broses o sefydlu'r cwmni. Yr her fwyaf oedd gwybod am y llwybrau cywir i'w dilyn, a'u deall, i sicrhau bod gennyf bopeth roeddwn ei angen.
 

Cymorth Busnes Cymru

Cysylltodd Neil gyda Busnes Cymru yn 2018, gan ei fod angen cymorth i ehangu ei fusnes hyfforddiant personol a chyflogi staff, gan dargedu cyn-bersonél y fyddin. Derbyniodd gymorth gyda chynllunio busnes a llif arian, yn ogystal â datblygu ei gynlluniau tymor hir i agor ei gampfa fasnachol ei hun.

Ers hynny, mae Neil wedi ei gefnogi gan Ymgynghorydd Twf i baratoi ei syniad ar gyfer buddsoddiad, a lansio ei ganolfan ffitrwydd delfrydol, Mindset Functional Fitness, yn Nhrefforest. Cychwynnwyd y busnes yn 2020, gan helpu dynion, merched a phlant i oresgyn PTSD, iselder a gorbryder, ymhlith pethau eraill, drwy ffitrwydd gweithredol.


Canlyniadau  

  • dechrau llwyddiannus
  • creu 3 swydd
  • cymorth twf i ddatblygu'r busnes ymhellach
Mae Busnes Cymru wedi bod yn gymorth arbennig i mi, a gallaf ddweud a'm llaw ar fy nghalon, na fyddwn yn y sefyllfa rwyf ynddi heddiw hebddynt. Mae fy ymgynghorwyr wedi bod yn gwbl broffesiynol, gweithredu'n gyflym er mwyn cwblhau pethau, a chysylltu â mi drwy e-byst a galwadau i sicrhau fy mod yn 100% hapus.
 

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Fy nghynlluniau ar gyfer y dyfodol yw ehangu Mindset Functional Fitness Ltd drwy fasnachfreintio'r busnes ledled y DU - ac mae Busnes Cymru eisoes wedi fy rhoi ar ben ffordd. Edrychaf ymlaen at y dyfodol!

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
 
 
 

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.