BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Oseng-Rees Reflection

Oseng

Busnes cynaliadwy sy'n defnyddio gwydr wedi eich uwch gylchu i greu dyluniadau unigryw yn elwa o raglen Mentora Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.

Sefydlwyd Oseng-Rees Reflection gan Dr Tyra Oseng-Rees, ac mae'r busnes yn cynnig gosodiadau cynaliadwy wedi eu creu gan grefftwr yn defnyddio poteli gwydr wedi eu hailgylchu ar gyfer addurno mewnol a dibenion pensaernïol. Mae hi wedi elwa o gymorth mentor gwirfoddol Busnes Cymru sydd wedi helpu iddi ganolbwyntio ar brif elfennau'r busnes, goresgyn heriau a chynllunio datblygiad y busnes newydd.

Cyflwyniad i'r busnes

Sefydlwyd Oseng-Rees Reflection gan Dr Tyra Oseng-Rees, ac mae'r busnes yn creu deunyddiau gwydr cynaliadwy wedi eu uwch gylchu o boteli gwydr tawdd ar gyfer gosodiadau mewnol a phensaernïol.

Mae gan Tyra ddiddordeb mewn uwch gylchu, celf, gwyddoniaeth yn ogystal â doethuriaeth yn canolbwyntio ar swyddogaeth a nodweddion esthetig deunyddiau gwydr tawdd sydd wedi eu hailgylchu. Bu iddi lansio'r busnes yn 2017, ac ers hynny mae hi wedi llwyddo i gyfuno peirianneg dylunio a dulliau meddylfryd dylunio i greu cynnyrch unigryw o'r radd flaenaf.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Roedd fy nhad yn entrepreneur, ac rwyf wedi breuddwydio am ddechrau fy musnes fy hun erioed. Rwy'n cofio balchder fy nhad o adrodd ei hanes yn dechrau ei fusnes ar ôl rhoi'r gorau i'w alwedigaethol flaenorol yn dilyn anaf: "...gyda'r llyfr yn un llaw a'r offer yn y llaw arall...". Roedd yn annog fy holl syniadau, yn fy nghymell i werthu neu drafod prisiau bob amser, ac yn dweud wrthyf fy mod yn gallu gwneud unrhyw beth petawn i'n gweithio ddigon caled.

Roedd dechrau busnes yn freuddwyd gydol oes, er i mi ei gwestiynu ar brydiau. Wrth fynd yn hŷn, roedd yr heriau'n trechu'r cyfleoedd o ran rhedeg fy musnes fy hun, ac roedd diffyg rhwyd ddiogelwch a chyllid ar gyfer busnesau newydd yn gwneud i mi feddwl mai pobl gefnog yn unig oedd yn gallu dechrau busnes newydd.

Mewn marchnad fyd-eang gystadleuol, cynyddol, dechreuodd fy hyder ynghylch fy set sgiliau leihau, ac nid oeddwn yn credu y byddwn yn dechrau fy musnes fy hun. Ond, mewn moment ganolog yn fy mywyd, sylweddolais fod angen i mi ddechrau busnes a gwireddu fy mreuddwyd. Cyflwynais fy rhybudd i'm cyflogwr, cefais fy nghomisiwn cyntaf a dechreuais ar fy nhaith entrepreneuraidd. 

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf oedd peidio bod ofn methu. Roedd rhaid i mi ymddiried yn fy ngreddf ac yn fy sgiliau gwneud penderfyniadau. Dilynais ddull cam wrth gam i oresgyn yr holl heriau eraill, a byddaf yn parhau i'w goresgyn un ar y tro.

Cymorth Busnes Cymru

Bu i Tyra fynychu nifer o weithdai gan Busnes Cymru oedd yn ymdrin â threth, cadw cofnodion a marchnata, yn ogystal â chymorth cynghorol pellach i sefydlu ei busnes.

Yna, bu i Steve M Williams, mentor busnes gwirfoddol, helpu Tyra i ganolbwyntio ar elfennau penodol y busnes ac adeiladu ei chynllun er mwyn datblygu'r fenter.

Canlyniadau

Rwyf wedi elwa'n fawr o gymorth mentor busnes ac rwy'n hapus iawn efo'r trefniadau. Mae fy mentor, Steve, wedi cynnal fy ngallu i ganolbwyntio, caniatáu i mi drafod safbwyntiau a syniadau, ac rwyf wedi ymddiried yn ei brofiad proffesiynol i ddarparu cyngor da. Mae dechrau eich busnes eich hun yn heriol mewn sawl ystyr, a chefais gyngor yn llawn bwriad da gan bobl roeddwn yn eu parchu a'u hedmygu. Fodd bynnag, nid oedd llawer o'r cyngor wedi'i deilwra i'm hanghenion busnes ac nid oedd yn addas at y diben, ond gan fy mod yn newydd ac amhrofiadol, derbyniais y cyfan er bod safbwyntiau yn aml yn gwrthdaro.

Gan fy mod yn ymddiried yn fy mentor roeddwn yn gallu canolbwyntio ar un dasg ar y tro ac adeiladu ar fy musnes, fy strategaethau a'm cyfeiriad yn y dyfodol. Mae wedi bod yn bleser gweithio â mentor rwy'n ymddiried ynddo, sy'n cymryd diddordeb gwirioneddol yn fy musnes ac sydd eisiau i mi lwyddo. Rydym wedi cael cyfuniad o gyfarfodydd Skype ac wyneb yn wyneb i adolygu fy nghynlluniau busnes, telerau ac amodau, cyfryngau cymdeithasol, marchnata a datblygiad strategol o fewn fy nghyllideb a therfyn amser cyfyngedig.

Rwyf hefyd wedi cael cymorth gwych mewn gweithdai am ddim gan Busnes Cymru, yn trafod amrywiaeth o bynciau yn cynnwys treth a chyllid, dechrau busnes, marchnata a chyfryngau cymdeithasol a mwy. Mae'r darnau bach yma o gymorth wedi cynyddu fy set sgiliau. Fel unig fasnachwr gyda chyllideb newydd cyfyngedig nid oes arian ychwanegol ar gael i brynu gwasanaethau allanol, felly mae fy holl weithrediadau busnes wedi'u cwblhau'n fewnol.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae Oseng-Rees Reflection o fewn ei flynyddoedd cyntaf o fasnachu. Ffurfiwyd y busnes yn dilyn comisiwn i osod desg dderbynfa wydr wedi'i hailgylchu ym mhrif fynedfa adeilad academaidd newydd gwerth miliynau yn 2018. Roedd y comisiwn yn sail arbrofol i ffurfio cynllun busnes a strategaeth ar gyfer costau.

Y bwriad yw defnyddio'r deunydd fel opsiwn amgen dibynadwy ar gyfer y farchnad addurno mewnol a phensaernïol soffistigedig. Ar hyn o bryd dyma'r unig ddeunydd gwydr newydd ac arloesol sy'n cael ei wneud o wydr potel tawdd wedi'i ailgylchu. Rwyf eisiau datblygu'r busnes yn organig yn ystod y tair i bum mlynedd gyntaf drwy ehangu'r amrywiaeth o gynnyrch, mireinio'r strategaeth ar gyfer costau a sefydlu cydweithrediadau er mwyn dod o hyd i brosesau e.e. torri gyda jet dŵr, engrafu a gosod.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.