BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Prosiect Byd Gwaith (World of Work – WoW)

WoW (‘World of Work’) Project
Twf cyflym mewn busnes o Ogledd Cymru sy’n ysbrydoli dysgwyr ifanc i fentro i fyd gwaith.
 
Wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru a Swydd Caer, lansiwyd Prosiect Byd Gwaith gan yr arbenigwr gyrfaoedd Sue Prior. Nod y busnes yw cyflwyno plant a phobl ifanc i ‘Fyd Gwaith’ gan ddefnyddio ystod o raglenni teilwredig, hwyliog a rhyngweithiol.
 
  • Cychwynnodd yn llwyddiannus yn 2015 gyda chefnogaeth gychwynnol Busnes Cymru
  • Creu swyddi
  • Mae Busnes Cymru yn helpu i archwilio cyfleoedd i ddelio gyda galw cynyddol 
Gyda chyfoeth o brofiad o weithio gyda phlant a phobl ifanc o bob cefndir, penderfynodd Sue Prior fynd amdani a chychwyn ei busnes ei hun. Wedi’i sefydlu yn Sir y Fflint yn 2015, mae’r Prosiect Byd Gwaith yn darparu gwasanaeth teilwredig i ysgolion cynradd ac uwchradd fel ei gilydd, gan gynnwys addysg gyrfaoedd i blant ac oedolion ifanc trwy sesiynau grŵp hwyliog a rhyngweithiol.   
 
Beth wnaeth i chi benderfynu cychwyn eich busnes eich hun?
 
Roeddwn i wedi bod yn Gynghorydd Gyrfaoedd ers tua 20 mlynedd, yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn ysgolion prif ffrwd, mewn unedau cyfeirio disgyblion, yn ogystal â phlant sy’n derbyn eu haddysg gartref, plant mewn gofal a phlant mewn ysgolion arbennig. Yna bûm yn ddigon ffodus i gael secondiad i Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJB) Sir y Fflint fel eu Cynghorydd Gyrfaoedd llawn amser. Treuliais chwe blynedd yn gweithio gyda phobl ifanc ag ymddygiadau troseddol a rhwystrau i gynnydd niferus. Fy rôl i oedd eu hysgogi, eu hannog a’u cefnogi i ffordd o fyw fwy positif, h.y. cyflogaeth, hyfforddiant neu addysg.    

Gan fod gan bob person ifanc y gweithiais gyda nhw anghenion ychwanegol, boed yn gymdeithasol, dysgu, emosiynol neu ymddygiadol, ynghyd â’r ffaith ei bod yn adeg o’u bywydau pan oedd angen hyder arnyn nhw i wneud penderfyniadau cytbwys a bachu cyfleoedd tra’r oedden nhw’n dal i ymboeni am bynciau, arholiadau a chynlluniau’r dyfodol, dechreuais feddwl efallai y dylai addysg gyrfaoedd gael ei haddysgu o oedran cynharach.  

Ar y pryd, roedd darpariaeth gwasanaeth gyrfaoedd yn mynd trwy gyfnod o newid a dechreuais ystyried mynd yn hunangyflogedig. Wedi mwynhau fy mhrofiad gwaith blaenorol mewn ysgol gynradd, treuliais amser yn ymchwilio i fy syniadau, gan hyrwyddo’r syniadau hyn i ysgolion, plant, rhieni, gofalwyr a sefydliadau. Cysylltais hefyd â phrifathrawes ysgol gynradd leol i ofyn a allwn dreialu’r prosiect yn ei hysgol hi.  

Yn dilyn cais llwyddiannus am ryddhad gwirfoddol, gadewais waith llawn amser ym Mawrth 2015 ac rwy’n dal i gyffroi wrth feddwl am y diwrnod y cafodd fy nghais ei dderbyn!   
 
Pa heriau a wynebwyd gennych?
 
Roedd gweithio oriau hir yn anodd i ddechrau. Yn enwedig pan oedd yr oriau hynny yn golygu ymchwilio neu rwydweithio, heb ddarparu unrhyw incwm. Neu yrru ar deithiau hir i gyfarfodydd gyda dim ond digon o danwydd yn y car!   

Roedd pob cam o’r daith yn brofiad dysgu enfawr ond gan fod y cyfan yn newydd i mi, fe gymerodd lawer o amser.
Rwy’n ei chael hi’n anodd braidd gwneud penderfyniadau am fod arna’i eisiau gwneud y peth iawn a’i wneud yn iawn. Mae pob penderfyniad yn effeithio ar fy nheulu, felly rwy’n teimlo’r pwysau weithiau y gallai penderfyniad gwael gael effaith niweidiol arnyn nhw.  

Llif arian! Er bod gen i lawer o waith ar y gweill, tybiaf fy mod i wedi treulio’r ddwy flynedd gyntaf yn fy ngorddrafft. Unwaith y derbyniais mai dyna oedd fy llinell sylfaen, ymlaciais rywfaint am y peth, ond peth annifyr iawn yw gweithio mor galed, gan ddarparu gwasanaeth gwych sy’n cael effaith wirioneddol bositif ar fywydau pobl, tra’n teimlo’n flinedig ac yn y coch. Yn ffodus, fe wellodd pethau yn y 12 mis diwethaf, felly rwy’n hapusach. Rwy’n meddwl mai llawer o’r broblem oedd prynu gymaint o adnoddau ar gyfer y busnes, a hynny heb gael benthyciad busnes.
 
Cefnogaeth Busnes Cymru
 
The Welsh Government’s Business Wales service has been supporting Sue from the start of her self-employment journey. Bu Busnes Cymru yn cefnogi Sue ers dechrau ei siwrnai hunangyflogedig. Yn dilyn arweiniad cychwynnol gydag ymchwil a chynllunio busnes, mynychodd sawl gweithdy ac elwa yn sgil cymorth cynghorol gan Gynghorydd Twf Busnes Cymru, Carol Williams. 

Yn fwy diweddar, bu Carol yn gweithio gyda Sue i ddatblygu mwy ar y Prosiect Byd Gwaith trwy archwilio cyfleoedd trwyddedu a rhyddfreinio yn sgil galw sy’n tyfu’n gyflym.
 
Deilliannau 
 
Mae Carol fy nghynghorydd wedi bod yn anhygoel. Mae wedi bod gyda mi bob cam o’r ffordd ac yn gydymaith gwych. O’r cynllun busnes cychwynnol i dreialu’r busnes, hyfforddi i rwydweithio, cadw llyfrau i AD, mae Carol wedi bod yn hael ei gwybodaeth a’i chyngor. Rwy’n hoffi’r ffordd mae hi’n gofyn cwestiynau sy’n gwneud i mi gwestiynu fy hun, a hynny yn ei dro yn arwain at ddiwygiadau yn fy nghamau nesaf. Os oes unrhyw beth nad yw Carol yn siŵr ohono, mae’n mynd i chwilio am atebion ac ebostio’r wybodaeth ataf. Fe’m cyfeiriodd at Hyfforddiant Tyfu Eich Busnes (sef y cwrs gorau y bûm arno), Cyflymu Cymru i Fusnesau (roedd yr arolwg un-i-un o fy musnes yn ardderchog), yn ogystal â gwasanaeth Mentora Busnes Cymru, lle’r wyf wrthi’n cael fy mharu gyda mentor busnes â phrofiad rhyddfreinio. Rwy’n teimlo’n lwcus iawn i gael manteisio ar gymaint o gefnogaeth ac mae wedi bod yn ymdrech tîm go iawn.
 
Cynlluniau ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol
 
Ar hyn o bryd, darperir sesiynau gan dîm o weithwyr llawrydd a hyfforddwyd gen i yn y Prosiect Byd Gwaith. Maen nhw’n gweithio mewn chwe sir ledled Gogledd Cymru a darperir y sesiynau yn ddwyieithog gydag adnoddau yn cael eu gwahaniaethu fel bod y prosiect ar gael i bawb.  

Bydd Byd Gwaith yn gweithio ar brosiectau newydd i ddatblygu mwy ar y cynnwys. Bydd hyn yn cynnwys rhanddeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Byddwn yn ehangu’r busnes yn ddaearyddol i ymdopi â’r galw cynyddol yng Ngogledd Cymru a’r DU gyfan.

Pe hoffech ddarllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i sefydlu neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.