BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ridiculously Rich by Alana

Ridiculously Rich by Alana

Busnes Cymru yn helpu pobydd teisennau o Aberystwyth i ddatblygu ei busnes yn llwyddiannus.

Bu i Alana Spencer lansio Ridiculously Rich by Alana i gynnig amrywiaeth o deisennau a siocledi wedi eu pobi gartref i gwsmeriaid, manwerthwyr ac mewn digwyddiadau ar draws y wlad. Ar ôl cymryd rheolaeth lwyr dros ei busnes yn dilyn buddsoddiad gan yr Arglwydd Sugar, roedd Alana yn barod i ddatblygu strategaeth newydd i dyfu ymhellach - a dyma lle ymunodd gwasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru.

  • Cymorth Rheoli Cysylltiadau i dyfu'r busnes
  • Sicrhau Grant Arloesi o £40,000
  • Creu 6 swydd cyfwerth ag amser llawn gyda'r bwriad o ychwanegu mwy o swyddi yn 2020

Cyflwyniad i'r busnes

Yn 16 oed cychwynnodd Alana Spencer, sy'n wreiddiol o Aberystwyth, wneud siocledi i ffrindiau a theulu, ac yna aeth ymlaen i sefydlu ei busnes pobi ei hun, yn gwerthu teisennau ledled y wlad.

Ar ôl sicrhau buddsoddiad o £250,000 gan yr Arglwydd Sugar yn ystod cyfres 2016 o The Apprentice, roedd Alana yn gallu cychwyn ar Ridiculously Rich by Alana, ac ers hynny mae hi wedi lansio ei becws ei hun yn Aberystwyth, ac yn cynnig amrywiaeth o deisennau a siocledi yn dilyn ei ryseitiau personol.

Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Elite Franchises fod Alana ymhlith y 100 masnachfraint gorau (Rhif 66) yn y DU am ei rhaglen Llysgenhadon arloesol newydd.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Ers pan oeddwn yn ifanc, rwyf wastad wedi bod yn meddwl am syniadau bychain ar gyfer prosiectau a busnesau. Cychwynnais werthu siocledi yn 16 oed i fy ffrindiau ac athrawon. Yna cychwynnais bobi teisennau gan deithio ar draws y DU yn gwerthu mewn gwyliau bwyd a digwyddiadau. Mae gweithio i fi fy hun a gwerthu rhywbeth rwyf wedi ei wneud wedi bod yn benderfyniad naturiol i mi erioed, ac mae fy ewythr wedi bod yn ysbrydoliaeth fawr, sydd wedi cael nifer o fusnesau llwyddiannus ei hun.

Pa heriau a wyneboch?

Pan roeddwn yn gwneud siocledi roedd oes silff y cynnyrch yn broblem. Roedd gan rai o'r siocledi hufen ffres ynddynt, ac er ei fod yn flasus, roedd yn golygu bod llawer o wastraff! Yn fwy diweddar, rwyf wedi profi llawer o heriau wrth sefydlu fy mecws fy hun. Mae wedi cymryd cryn amser i feistroli'r cyllidebau angenrheidiol a chynhyrchu i derfynau amser tynn.

Cymorth Busnes Cymru

Ymunodd Steve Maggs, Rheolwr Perthynas Busnes Cymru, ag Alana i helpu gyda'r gwaith cynllunio gwreiddiol ar gyfer agor ei becws newydd yn Aberystwyth, yn cynnwys trefnu cymorth gan dîm Iechyd Amgylcheddol Cyngor Sir Powys.

Yn ogystal, bu i Steve helpu gyda strwythur cymorth gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, newydd i gymryd lle'r fframwaith a ddarparwyd gan sefydliad yr Arglwydd Sugar.

Yn ychwanegol, cynorthwyodd Busnes Cymru gyda chais llwyddiannus Alana ar gyfer grant Arfor 'Tyfu yw'r Nod' Cyngor Sir Ceredigion, a oedd yn mynd at raglen fuddsoddi gyda'r nod o sefydlu sianelau gwerthu newydd ar gyfer ei hamrywiaeth o gynnyrch.

Canlyniadau

  • cymorth Rheoli Cysylltiadau i dyfu'r busnes
  • sicrhau Grant Arloesi o £40,000
  • creu 6 swydd cyfwerth ag amser llawn gyda'r bwriad o ychwanegu mwy o swyddi yn 2020
  • cymorth AD gyda pholisïau a gweithdrefnau cyn cychwyn ymgyrch recriwtio
  • cyngor sgiliau ar gyfleoedd hyfforddi
  • Cymraeg i Fusnesau i annog y defnydd o'r Gymraeg yn y busnes
  • rhagor o gymorth arloesi i gefnogi amcanion cynaliadwyedd y busnes

Mae cymorth Steve wedi bod yn amhrisiadwy. Mae cael rhywun i gynnig cyngor wedi bod yn hynod fanteisiol. Mae cymaint o gyngor a chyllid arbennig ar gael i fusnesau yng Nghymru - mae cymorth a chyngor Busnes Cymru wedi ein galluogi i sicrhau grant arloesi i dyfu ein busnes.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rydym yn bwriadu adeiladu 80 o'n hunedau manwerthu hunanwasanaeth a'u gosod nhw mewn siopau manwerthu a chyfleustra ledled y DU gydag arian y grant rydym wedi'i dderbyn. Yn ddiweddar, rydym wedi cychwyn cyflenwi manwerthwyr cenedlaethol, Nisa a BP, ac rydym mewn trafodaeth â nifer o fanwerthywr cyffrous eraill. Y nod yn y pen draw i Ridiculously Rich yw dosbarthu ein teisennau i gymaint o siopau a chwsmeriaid ag sy'n bosib!

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.