BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Ryde UK

Ryde UK

Dechreuodd Christopher Davies Ryde UK – sef y gwasanaeth chauffeur ‘dim allyriadau’ cyntaf yng Nghymru ac, yn wir, yr unig wasanaeth o’i fath trwy’r wlad – fel partneriaeth gyda’i dad, Stephen, ar ôl gwerthu eu busnes blaenorol, a oedd yn cyflwyno cyrsiau gwella sgiliau gyrwyr ac ymwybyddiaeth cyflymder ar draws y DU.

Ar ôl i’w cwmni blaenorol gael ei werthu, penderfynodd Chris a’i dad sefydlu Ryde, gan anelu at wneud gwahaniaeth mawr yn y ffordd y caiff gwasanaethau cludo eu hystyried ar draws De Cymru a thu hwnt. Mae ganddynt gerbydau o’r radd flaenaf, gyda’r dechnoleg arloesol ddiweddaraf o ran diogelwch gyrwyr, ynghyd â system bŵer drydan ‘dim allyriadau’.

Mae gyrwyr Ryde UK wedi’u hyfforddi’n drylwyr, diolch i’r blynyddoedd lawer o brofiad sydd gan y sylfaenwyr o weithio ochr yn ochr â Heddluoedd ledled y DU i wella safonau diogelwch ar y ffyrdd. Ar hyn o bryd mae ganddynt fflyd o dri char, a’u gobaith yn y dyfodol agos yw ehangu a chynnig gwasanaeth rhentu ceir Tesla, gan weithredu ar draws coridor yr M4.

Mae’r busnes wedi’i gynnwys ar restr ‘Fast Growth 50’ Cymru dair blynedd yn olynol ac mae hefyd wedi ennill y wobr uchel ei bri ‘Arloesi Drwy Dechnoleg’.

Beth ddaru nhw

Ar ôl dod o hyd i fwlch yn y farchnad ar gyfer gwasanaeth chauffeur preifat, a chydag awydd i gyfrannu mewn modd cadarnhaol at ein sialensiau amgylcheddol cynyddol, penderfynodd Chris a Stephen wneud yn fawr o’u profiad, eu gwybodaeth a’u craffter busnes i lansio gwasanaeth chauffeur ‘dim allyriadau’. Hyd yn hyn, mae’r busnes wedi tyfu’n organig, ond yn ddiweddar penderfynasant gysylltu â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i gael cymorth i dyfu ymhellach ac archwilio cyfleoedd marchnata.

Beth fuasant yn ei wneud yn wahanol

"Yn amlwg, mae yna duedd gynyddol i fusnesau ddefnyddio strategaeth marchnata digidol er mwyn cysylltu â’u cynulleidfa. Mae hi wedi cymryd 12 mis inni sylweddoli hyn a dechrau llunio strategaeth farchnata, gan ddefnyddio’r amrywiol lwyfannau cyfyngau cymdeithasol sydd ar gael inni.” – Christopher Davies, Perchennog a Chyd-sylfaenydd Ryde UK

Eu adeg mwyaf balch mewn busnes

“Mewn cyfnod byr, mae’r cwmni wedi ennill nifer o gontractau gyda sefydliadau mawr yn Ne Cymru, yn cynnwys gwestai 5 seren fel y Celtic Manor.”

Disgrifiwch y math o gefnogaeth (ariannol / an-ariannol) maen’t wedi ei gael gan Busnes Cymru / Llywodraeth Cymru

Mae Ryde UK wedi cael cymorth gan Phil Summers, Rheolwr Perthynas Busnes Cymru, sydd wedi cynnig cyngor hollbwysig ynghylch datblygu strategaeth farchnata glir, yn cynnwys y cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithio. Hefyd, mae wedi cynorthwyo Chris gyda chynllunio strategol ar gyfer twf y busnes yn y dyfodol, ac wedi’i gyflwyno i sefydliadau perthnasol yn y sector cyhoeddus, fel Llywodraeth Cymru, GIG ac Awdurdodau Lleol Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau.

Ymhellach, mae Chris wedi elwa ar gymorth cynghorydd tendro, Elgan Richards, gan ei alluogi i ennill nifer o gontractau pwysig.

Medd Chris: “Mi fuaswn yn argymell Phil a thîm Busnes Cymru i bawb sy’n cychwyn ei fusnes ei hun. Maen nhw’n dîm profiadol iawn, maen nhw’n cymryd yr amser i ddod i’ch adnabod fel unigolyn ac maen nhw’n awyddus iawn i ddysgu am eich busnes. Rydw i wedi dysgu llawer trwy ymwneud â’r tîm. Yn arbennig, mae’r profiad wedi fy helpu i archwilio cyfleoedd hyrwyddo newydd a chael gwell dealltwriaeth o’r rhwydwaith cymorth y gall sefydliad fel Busnes Cymru ei gynnig i Fusnesau Bach a Chanolig.”

Cyngor Dda

Dyma awgrymiadau ardderchog Ryde UK ar gyfer pwy bynnag sy’n dymuno dechrau neu dyfu ei fusnes ei hun:

  • mae yna sawl llwybr cymorth ar gael i’ch helpu ar eich taith – gwnewch yn fawr o’r rhain, oherwydd gallant fod yn amhrisiadwy
  • mae marchnata wedi datblygu’n fawr yn ystod y degawd diwethaf ac mae’r cyfleoedd i ryngweithio gyda chwsmeriaid newydd wedi tyfu’n sylweddol; dysgwch gymaint ag y gallwch am farchnata digidol a throwch at gwmnïau a all eich cynorthwyo
  • os oes cyfarfodydd/grwpiau o entrepreneuriaid o’r un meddylfryd â chi i’w cael mewn sectorau tebyg, fe allai troi at y rhai sydd â blynyddoedd o brofiad fod yn fuddiol iawn, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn fwy na pharod i roi help llaw i ddarpar entrepreneur
  • cynlluniwch eich busnes, ysgrifennwch bopeth ar ddu a gwyn, nid oes yn rhaid i’r cynllun fod yn hir – nodwch eich gwerthoedd craidd, ynghyd â’ch cwsmeriaid delfrydol a’r strategaeth farchnata ar gyfer eu denu. Fe fydd y ddogfen hon yn siŵr o newid, felly peidiwch â bod ofn ei hadolygu’n rheolaidd a chanfod beth sy’n gweithio neu ddim yn gweithio
  • byddwch yn realistig; mae creu a datblygu busnes yn cymryd amser, ar brydiau, efallai y byddwch o’r farn nad yw’n gweithio; ond mae’r rhan fwyaf o fusnesau’n cymryd blynyddoedd i ennill eu plwyf a denu cleientiaid dibynadwy 

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.