BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Simplelifeco UK

Simplelifeco UK Warehouse

Busnes eco-ymwybodol yn tyfu o ystafell sbâr i warws 2,500 tr. sg. gydag arweiniad gan raglen mentora Busnes Cymru.

Cyflwyniad i’r busnes

Wedi’i sefydlu yn 2019 gan Dino Hodzovic a Bethan Keeble yng Nghaerdydd, mae Simplelifeco UK yn fusnes ecogyfeillgar, sy’n arbenigo mewn pecynnau diwastraff, gan gynnwys negeseuon startsh corn a phapur, bagiau papur a bagiau tyfu llysiau, ymhlith pethau eraill.

Cefnogaeth Busnes Cymru

Ar ôl derbyn cymorth Busnes Cymru ar fenter flaenorol, cysylltodd Dino a Bethan â gwasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru pan benderfynon nhw lansio eu busnes newydd ecogyfeillgar - Simplelifeco UK.

Gweithion nhw gydag ymgynghorwyr Busnes Cymru i lansio’r syniad, ac ers hynny maent wedi ymgysylltu gyda’n Rhaglen Mentora i dyfu’r busnes ymhellach, gan alluogi’r entrepreneuriaid i symud o ystafell sbâr i’w warws newydd yng Nghaerdydd. 

Cawsom sgwrs gyda Dino i ddysgu mwy am sut roedd y rhaglen fentora o fudd i Simplelifeco UK.

Pam gwnaethoch chi benderfynu sefydlu eich busnes eich hun?

Gwnaethom sefydlu Simplelifeco UK i hyrwyddo dewisiadau ffordd o fyw a chynnyrch ecogyfeillgar i’r gymuned eco-ymwybodol gynyddol yn y DU a ledled y byd.

Ar ôl gweld â’m llygaid fy hun faint o blastigau un-tro sy’n cael eu defnyddio yn y gadwyn gyflenwi, ein nod yw chwarae rhan i leihau’r lefelau hynny. 

Mae ein cynnyrch yn dod o ffynonellau cynaliadwy, wedi’u hardystio’n unol â hynny ac maent un ai’n hollol fioddiraddadwy neu wedi’u gwneud allan o wastraff ôl-gwsmeriaid wedi’i ailgylchu. 

Drwy hyrwyddo ymarferion mwy gwyrdd i fusnesau bychan a mawr ledled y DU, rydym yn gallu helpu i atal niferoedd mawr o wastraff rhag mynd i gyfleusterau tirlenwi.

Pa heriau wyneboch chi?

Dechreuodd y busnes mewn ystafell sbâr heb lawer iawn o gyfalaf, felly cael lle a llif arian mae’n siŵr yw’r heriau mwyaf hyd yma. 

I fod yn onest, ar y dechrau, roedd yn ymddangos fel ein bod yn rhedeg allan o’r ddau (lle ac arian), bob mis! Gyda chymorth Busnes Cymru, roeddem yn gallu cadw llygad agos ar ein gwerthiannau misol a’n lefelau stoc er mwyn tyfu yn y ffordd fwyaf effeithlon gyda’r adnoddau oedd gennym. Nawr, rydym yn falch o symud i ofod warws 2,500 tr. sg., lle gallwn barhau i dyfu.

Sut mae eich mentoriaid Busnes Cymru wedi’ch helpu chi?

Mae ein mentoriaid wedi bod yn wych! Rydym wedi bod mor ddiolchgar o gael mynediad i’r cynllun mentora, gan ei fod wedi’n galluogi ni i ddysgu gan yr arbenigwyr - pobl sydd ag ystod eang iawn o wybodaeth a phrofiad busnes.

Rydym wedi gweithio gyda dau fentor, ac mae’r ddau’n rhoi persbectif gwahanol, gan gynnig rhwydwaith cymorth lle gallwn drafod syniadau neu droi ato at gyngor.  

Rhoddodd Mark Tudor strategaeth fusnes ardderchog i ni mewn adegau anodd, ac mae Adrian Green wedi rhoi help mawr i ni wrth chwilio am ein warws newydd. 

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol

Bob dydd, mae rhywun yn y DU yn derbyn un o’n negeseuon “Rwy’n 100% ecogyfeillgar” y gellir eu compostio yn y post, ac mae’r nifer honno’n tyfu - yn gyflym iawn, hefyd!

Rydym eisiau bod yn enw cyfarwydd o ran pecynnau cynaliadwy a chynnyrch ecogyfeillgar yn y DU, a chyda chymorth parhaus Busnes Cymru, rydym yn gobeithio gwneud hynny yn y dyfodol.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant o sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnes, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.