BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Socialdice

Socialdice

Roedd gan y ddau ohonom freuddwyd i agor caffi gemau bwrdd cyntaf erioed Abertawe – lle i ddod â phobl ynghyd drwy swyn gemau bwrdd.

Mae pawb wrth eu bodd â gêm fwrdd, yn dydi? Penderfynodd Chris a Ryan fynd amdani a throi eu brwdfrydedd dros gemau bwrdd yn fusnes gan agor caffi gemau bwrdd, Socialdice, ar Wind Street, Abertawe. 

Gwelsant fwlch yn y farchnad ar gyfer y math hwn o fusnes, ac yn sgil hynny cysylltasant â ni yn Busnes Cymru am gyngor i wireddu eu gweledigaeth.

Gyda chymorth eu hymgynghorydd busnes, dadansoddwyd eu cynllun busnes, adolygwyd datrysiadau eiddo ac yn bwysicach na dim, drwy dderbyn yr arweiniad hwn, magodd Chris a Ryan yr hyder i roi eu busnes newydd ar waith.

Ers i’r busnes ddechrau masnachu, mae Chris a Ryan wedi dechrau gweithio gyda’n gwasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau, sy’n cynnig cymorth ar-lein ac yn ddigidol.

A oes gennych chi syniad am fusnes ac angen cyngor a chymorth? Cysylltwch heddiw. 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.