BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Splice Cast

Splice Cast

 

Mae Splice Cast yn y busnes o achub bywydau! Wedi ei leoli yn y Drenewydd, mae'r cwmni'n arbenigo mewn cynhyrchu ac ailwerthu cynnyrch meddygol yn bennaf. Mae eu hamrywiaeth blaenllaw o offer datgelu cancr ceg y groth yn cynnwys sawl brand eu hunain, yn ogystal â dyfeisiau unigryw ychwanegol, patent sydd yn gwneud y gweithdrefnau yn fwy manwl-gywir. Mae eu cynnyrch yn cael eu gwerthu yn y DU ac Ewrop.

"Rydym yn gwneud sawl paled o gynnyrch yn ddyddiol, ac yn ôl ystadegau presennol, mae un achos o gancr posib yn cael ei ddatgelu gyda phob paled - felly rydym wirioneddol yn y busnes o achub bywydau."

1. Pa heriau a phroblemau posibl yr oeddech chi'n eu hwynebu o ganlyniad i ansicrwydd Brexit?

Fel cyflenwr cynnyrch a dyfeisiau meddygol hanfodol, mae gan Splice Cast swyddogaeth allweddol fel partner mewn llawer o gadwyni cyflenwi, megis y GIG. Er mwyn ateb rhwymedigaethau cytundebol, roedd Duncan Morren, Rheolwr Gyfarwyddwr, a'r tîm yn teimlo bod Brexit yn creu nifer o fygythiadau posib, o ran gofynion logisteg a chyflenwi yn bennaf:

"Byddai cyfraddau llog amrywiol, yn sgil ansicrwydd Brexit, yn creu ansicrwydd o ran tendro a gosod pris am waith. Yn ogystal, rydym angen prynu mwy o ran crynswth er mwyn cael gwell pris a gwrthbwyso rhywfaint o'r materion cyfradd cyfnewid.

Rydym hefyd angen cyflenwi gan ddilyn amserlen gaeth gan fod ein cynnyrch yn cael eu defnyddio gan glinigau GIG, ac mae'n hanfodol fod gennym gyflenwadau. Byddai oediadau posib mewn cludiant ac argaeledd deunyddiau o Ewrop, a thu hwnt, yn drychinebus - gallem golli cytundebau a bod mewn perygl o fod yn gyfrifol am iawndal - rydym eisoes wedi cael cais i ddarparu tystiolaeth o'n gallu i liniaru materion cyflenwi posib, ac mae storio mwy o stoc yn dod yn hanfodol. Er mwyn ymdrin â hyn a lliniaru'r risgiau, bydd yn rhaid i ni fuddsoddi mewn mwy o le storio i gadw'r stoc ychwanegol."

2. Eich rhesymau dros ymgeisio am Grant Cydnerthedd Brexit: pa brosiectau fydd yn elwa o'r grant hwn a sut ydych chi'n credu y byddai'r gronfa yn eich helpu i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil Brexit?

Mae cymorth drwy Grant Cydnerthedd Brexit (£48,595) wedi cyfrannu at fuddsoddi mewn lle ychwanegol mewn warws, sydd yn ein galluogi ni i gadw stociau mwy sylweddol o ddeunyddiau crai yn ogystal â nwyddau gorffenedig er mwyn ein harbed rhag effeithiau oediadau ar y ffin a tharfu ar gyflenwadau. Mae hyn wedi bod yn gam hanfodol er mwyn ein paratoi ni ar gyfer Brexit ac anawsterau cyflenwi posib, yn ogystal â chadw ein cwsmeriaid a chytundebau presennol.

3. Unrhyw adborth a all fod gennych ynglŷn â'ch ymgysylltiad â gwasanaeth Busnes Cymru a'r cymorth a gawsoch

Roedd y cymorth a roddwyd gan Rowan Jones, ein Rheolwr Perthynas, yn ddefnyddiol tu hwnt. Mae gennym berthynas barhaus gydag ef, felly fe roddodd wybod i ni am y grant, ein helpu i wneud cais amdano, a chadw mewn cysylltiad ar hyd y daith. Mae'r gefnogaeth yn ystyrlon ac yn ddefnyddiol, ac mae'n dda cael gwybod fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithgynhyrchu meddygol o hyd. Daliwch ati gyda'r gwaith da - rydym yn hynod ddiolchgar am yr help yn ystod yr amseroedd ansicr hyn.

4. Pa weithgareddau eraill ydych chi'n eu gwneud i baratoi eich busnes ar gyfer ymadawiad y DU o'r UE?

Mae'n anodd rhagweld beth fydd canlyniad Brexit, felly mae'r un mor anodd cynllunio ar ei gyfer. Mae gennym staff ychwanegol ac rydym wedi rhoi ail sifft ar waith i ymdopi â chyfnodau brig a chyfnodau tawel a ddisgwylir o ran galw gan y sector preifat a'r GIG. Rydym hefyd wedi uwchraddio ein darpariaeth TG er mwyn cyflymu a symleiddio'r broses archebu gan ei gwneud hi'n hwylus i'n cwsmeriaid sicrhau parhad y cyflenwad. Mae'n gyfnod ansicr, ond rydym yn ystyried Brexit fel cyfle i weithgynhyrchwyr y 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.