BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Thimble

Thimble

Dylunydd ffasiwn o Ffrainc sydd wedi ymgartrefu yng Ngorllewin Cymru yn meithrin cymuned gwnïo ac yn ysbrydoli mwy o bobl i wneud eu dillad eu hunain.

Gyda phrofiad helaeth o ddysgu pobl i wnïo a gwybodaeth am greu dillad a thorri patrymau, aeth Camille Jacquemart ati i sefydlu Thimble Studios yn 2013 i gynnig amrywiaeth o gyrsiau gwnïo. A hithau’n wynebu heriau oherwydd pandemig Covid-19, manteisiodd Camille ar wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru a chafodd ei pharu â mentor busnes gwirfoddol, sydd wedi ei helpu i symud ei busnes ar-lein, a’i dyfu, yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Cyflwyniad i’r busnes

Ar ôl graddio mewn Dylunio Ffasiwn yn Ffrainc a hyfforddiant yn Threesafour, gydag Alexander McQueen a Fred Butler, sylweddolodd Camille Jacquemart fod ei diddordeb mewn ffasiwn cyflym yn lleihau'n gyflym tra bod ei chwilfrydedd ynglŷn â sut rydym yn gwneud ein dillad yn tyfu. Yn 2012, daeth i fferm wlân yn Sir Gaerfyrddin, lle treuliodd flwyddyn yn bugeilio ac yn dysgu'r broses o wneud brethyn o wlân. Yn fuan ar ôl hynny, sefydlwyd Thimble Studios, gan ysbrydoli mwy o bobl i wneud eu dillad eu hunain.

Mae Thimble Studios yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gwnïo, yn amrywio o sesiynau i ddechreuwyr pur i sesiynau gwnïo ar lefel uwch o amgylch Sir Gaerfyrddin ac ar-lein.

Cawsom sgwrs gyda Camille a'i mentor Gareth i ddarganfod sut maen nhw wedi ymateb i heriau pandemig Covid-19:

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu yn ystod pandemig Covid-19?

Cyn y pandemig, roeddwn wedi bod yn cynnal cyrsiau gwneud dillad a chynnig cyfle i encilio. Gyda fy holl ddosbarthiadau’n cael eu canslo dros nos a dim dyddiad i ail-gychwyn, bu'n rhaid i mi ailfeddwl yn llwyr am y ffordd y mae fy musnes yn gweithredu. Roedd yn uchelgais gen i ers tro i ddatblygu gwasanaeth ar-lein felly dyma y penderfynais ganolbwyntio arno. 

Ar y dechrau, roedd yn anodd sefydlu fy mhrosiect. Roedd yn anodd dod o hyd i offer, yr arbenigedd, yn wir unrhyw beth, oherwydd effaith y pandemig.

Penderfynais beidio â rhuthro, dim ond cysylltu â fy nghynulleidfa nes mod i’n cael trefn ar yr holl fanylion technegol i sefydlu fy mhrosiect. Roeddwn i'n gwybod fy mod am ddatblygu rhywbeth hirdymor a fyddai'n dal i fy nghynnal ar ôl y pandemig.

Dyma pryd y cysylltais â Busnes Cymru. Cysylltais i weld pa gymorth a allai fod ar gael.

Canlyniadau

Roeddwn i'n gyffrous iawn pan glywais fod modd i mi gael fy mharu â rhywun a oedd ag arbenigedd mewn e-ddysgu a recordio fideo. Mae fy mentor Gareth wedi bod yn gymorth mawr, gan fy nghyfeirio at yr adnoddau oedd eu hangen arnaf i wireddu fy mhrosiect. O ddatrys cwestiynau technegol i fy helpu i fireinio fy strategaeth fusnes, dyma'r union gyfuniad o gymorth yr oedd ei angen arnaf ar y pryd!

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol

Mae fy safle bellach wedi bod yn fyw ers 6 mis ac mae wedi llwyddo i sicrhau cyfradd cadw wych. Rwy'n awyddus i roi systemau ar waith i ddatblygu fy musnes ar-lein a denu mwy o gynulleidfa. Bellach gallaf fuddsoddi mewn rhywfaint o offer ffilmio a ffrydio - fuaswn i ddim wedi gallu dychmygu gwneud hynny 6 mis yn ôl (fe wnes i ffilmio fy holl gyrsiau gyda fy hen iPhone!). Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau cynnig mwy o hyfforddiant byw a dechrau rhoi rhywfaint o'r gwaith olygu ar gontract allanol. Rwy'n teimlo bod gen i fusnes y gallaf ei dyfu o'r diwedd ac rwy'n edrych ymlaen at gynnig   cynhyrchion ar-lein eraill i gyd-fynd â'r gwasanaethau.

Mentora Busnes Cymru

Gyda dros 15 mlynedd o brofiad o e-ddysgu, hyfforddi a chynnig hyfforddiant NLP, mae Gareth Harris yn rhedeg ei fusnes e-ddysgu ei hun, e-Ddatblygiadau, sy'n arbenigo mewn atebion e-ddysgu pwrpasol i gwmnïau, hyfforddwyr ac ymgynghorwyr, gan gynnwys dylunio a chreu modiwlau ar-lein pwrpasol a chyrsiau dysgu cyfunol.

Pan ofynnwyd iddo am y berthynas fentora â Thimble Studios, dywedodd Gareth: "Siaradais â Camille am y tro cyntaf ychydig ar ôl i'r cyfyngiadau symud gale eu cyflwyno pan benderfynodd na fyddai’n bosibl cynnal ei dosbarthiadau gwnïo wyneb yn wyneb ac y byddai’n rhaid iddi wneud rhywbeth arall. 

Roedd hi wedi dechrau rhoi cynnwys ar Facebook i helpu pobl oedd eisoes wedi dechrau cwrs gwnïo ystafell waith i orffen. Roedd cymaint o'r sgyrsiau a gawsom yn ymwneud â materion technegol, sut i wella ansawdd fideo a sain, sut i leihau maint ffeiliau a pha feddalwedd i'w defnyddio i olygu'r ffeiliau.

Mae Camille wedi bod yn frwdfrydig o'r dechrau ac mae bob amser yn awyddus i ddysgu ac edrych ar wahanol ffyrdd o wneud pethau. Roedd hi eisoes wedi ymuno â rhai dosbarthiadau ar-lein ac wedi dod o hyd i ffordd o gynnal ei chyrsiau a'i chymuned gwnïo.

Buom yn trafod y ffyrdd gorau i greu cynnwys y cwrs gwnïo a'r hyn y dylai ei gynnwys ac eto roedd Camille yn awyddus i ddatblygu hyn gystal â phosibl gan ddefnyddio'r offer a'r adnoddau oedd ar gael iddi.
Cawsom lawer o sgyrsiau am brisio a marchnata a chredaf fod Camille wedi gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo’i busnes ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn lansio ei chynnyrch.

Roedd y llwyddiant a gafodd yn y lansiad yn wych ac rwyf wrth fy modd ac yn falch o'i llwyddiant a'r holl waith caled y mae wedi'i wneud i adeiladu a chynnal ei busnes gwnïo ar-lein gwych.

Os ydych chi eisiau darllen mwy o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chi i gychwyn neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos  neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.