BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

TIR Construction

TIR Construction

Creu swyddi a chynllunio twf i ddarparwr gwasanaethau adeiladau blaenllaw yng ngogledd Cymru.

Busnes teuluol, wedi'i leoli ym Mhenrhyndeudraeth, Gwynedd yw TIR Construction. Wedi'i sefydlu gan ŵr a gwraig, Tony a Tania Edwards, mae'r cwmni wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd i gynnig datrysiadau dylunio ac adeiladu unigryw yng ngogledd Cymru, gan gynnwys addasiadau, cadw ac adfer adeiladau hanesyddol, adnewyddiadau, estyniadau i dai, dylunio ac adeiladau newydd.

  • cymorth Adnoddau Dynol arbenigol
  • 5 o swyddi wedi'u creu yn 2019
  • cymorth sgiliau gyda chynlluniau recriwtio, prentisiaethau a hyfforddiant
  • cymorth gyda thendro a thwf

Cyflwyniad i'r busnes

Mae TIR Construction, wedi'i leoli ym Mhenrhyndeudraeth yn ddarparwr gwasanaethau adeiladu o ansawdd uchel, blaenllaw i gleientiaid cyhoeddus a phreifat, sy'n cynnig adeiladau newydd, gwasanaethau adfer, adnewyddiadau ac estyniadau i dai, ledled gogledd Cymru.

Mae TIR Construction wedi sefydlu ei hun ymhlith y cwmnïau adeiladu gorau sy'n cynnig prosiectau adeiladu cynaliadwy, o ansawdd uchel ar draws ystod amrywiol o sectorau gan gynnwys y sectorau tai preswyl a phreifat, masnachol, hamdden, addysg a diwydiannol, gyda'u portffolio yn rhychwantu contractau adeiladu traddodiadol i adeiladau newydd ac adnewyddiadau, i ddylunio ac adeiladu datblygiadau mawr pwysig.

Pam oeddech chi eisiau dechrau busnes eich hun?

Dechreuodd fy ngŵr y busnes yn wreiddiol, 20 mlynedd yn ôl, a gwnaethom benderfynu ei wneud yn gwmni cyfyngedig yn 2012. Roeddwn yn gweithio fel Athrawes Lanw hirdymor ar y pryd, ac yn dilyn twf cymedrol yn y busnes, penderfynais adael fy ngyrfa addysgu i gynorthwyo gyda'r gwaith o reoli'r swyddfa cyn dod yn Gyfarwyddwr. Gan fod fy ngwybodaeth o adeiladu yn gyfyngedig iawn ar y pryd, dechreuais edrych ar asiantaethau a ariennir a fyddai'n gallu helpu a dechreuais dderbyn cyngor a chymorth gan Menter a Busnes. Pan dderbyniodd Busnes Cymru gyllid i barhau â'r gwaith, cofrestrais ein cwmni i dderbyn rhagor o gyngor a chymorth.

Pa heriau a wyneboch?

5 mlynedd yn ôl, roedd adeiladu yn ddiwydiant a oedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion yn y rhan hon o Gymru. Rwy'n cofio pan gysylltais â CITB am gymorth, am y tro cyntaf, teimlais nad oeddwn yn cael fy nghymryd o ddifrif gan fy mod yn newydd i'r diwydiant. Nid oedd unrhyw hysbysebion am gymorth na chyllid.

Mae'r cymorth a'r wybodaeth yr ydym wedi'u cael gan Busnes Cymru wedi bod yn fuddiol iawn i TIR Construction ac mae wedi ein helpu i gyflawni ein nodau, e.e. bod yn llwyddiannus wrth sicrhau lle ar fframweithiau amrywiol. Yn bwysicach, mae'r holl ohebiaeth wedi bod yn Gymraeg. Dyma fy iaith frodorol gan fy mod wedi cael fy ngeni a'm magu yng ngogledd orllewin Cymru. Rwyf wedi derbyn fy holl addysg yn y Gymraeg ac roedd fy ngyrfa wedi'i seilio ar addysgu mewn ysgolion cynradd lleol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hefyd wedi bod yn bleser gweithio â chydweithwyr benywaidd o Busnes Cymru.

Cymorth Busnes Cymru

Mae TIR Construction wedi derbyn cyfoeth o gymorth gan wasanaeth Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cymorth gyda thendro ac Adnoddau Dynol.

Yn dilyn mynd i sawl gweithdy tendro, mae Tania a'i thîm wedi elwa o gyngor ar sut i dendro am gontractau'r sector cyhoeddus.

Gan fod y busnes yn pryderu am dorri deddfwriaeth a'r risgiau ariannol ac enw da posib i'r sefydliad, trodd Tania at Lowri Dundee, ymgynghorydd Adnoddau Dynol arbenigol, a wnaeth helpu gyda chontractau cyflogaeth, cydymffurfio, polisïau, deddfwriaeth, recriwtio a llawlyfrau staff, yn ogystal â darparu cyngor ar reoli perfformiad.

Mae TIR Construction hefyd yn gweithio â Rheolwr Cysylltiadau, Busnes Cymru, Alan Woodbrigde, sydd wedi darparu cyngor ar symleiddio prosesau ac mae'n gweithio â'r busnes ar eu strategaeth dwf.

Canlyniadau

  • cymorth Adnoddau Dynol arbenigol
  • 5 o swyddi wedi'u creu yn 2019 gan gynnwys plastrwr, gosodwr brics, 2 brentis a swyddog gweinyddol
  • cymorth sgiliau gyda chynlluniau recriwtio, prentisiaethau a hyfforddiant
  • cymorth gyda thendro a thwf

Mae Lowri yn berson annwyl a tu hwnt o glen ac wedi fy rhoi ar ben ffordd sawl gwaith. Mae’n hollol broffesiynol ac yn wybodus yn ei gwaith. Nid oes dim yn ormod o drafferth iddi a bydd pob amser yn cysylltu’n ol yn syth pan fyddaf yn gadael neges. Mae Lowri wedi rhoi cymorth i mi i greu Contractau Gwaith i’n staff i gyd a hynny ar ddibenion ac anghenion y cwmni. Lowri sydd hefyd wedi creu cynnwys ein Llawlyfr Polisiau gan nodi y rhai sy’n berthnasol i ni ac yn ei diweddaru pan fydd yr angen. Yr hyn sy’n gyfleus yw ei bod yn dod allan i’n Swyddfa pan fydd yr angen. Mae wedi rhoi cefnogaeth a chyngor gwerthfawr ar hyd y blynyddoedd ac wedi fy nghyfeirio at aelodau eraill o’r tim pan oedd angen. Hoffwn ddiolch o galon iddi.

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rwyf bellach yn ymrestru ar gwrs Gweinyddu Busnes Lefel 4 yn y gweithle drwy Goleg Menai, Bangor. Ar hyn o bryd, rydym ar ddau Fframwaith Adeiladu mawr yng ngogledd Cymru ac yn gwneud cais i un arall ddiwedd y mis hwn. Rydym wedi dechrau ar brosiectau adeiladu newydd i Grŵp Cynefin ac wedi ennill dau gontract allanol mawr gan ADRA. Rydym hefyd yn datblygu'r dalent sydd gennym, ac yn gobeithio recriwtio mwy o staff yn fuan. 

Yn y dyfodol, rydym yn bwriadu bod ar fwy o fframweithiau adeiladu ac ennill mwy o gontractau a fydd yn sicrhau y gallwn dyfu'n raddol. Hoffem hefyd ddod o hyd i safle mwy, cyflogi mwy o bobl leol a gyda lwc, adeiladu tai newydd i bobl yn y gymuned.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.