BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

The Welsh Luxury Hamper Company

The Welsh Luxury Hamper Company

Llysgennad menywod ifanc mewn busnes yn lansio busnes hamperi moethus yn ne Cymru.

Gyda chymorth gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, penderfynodd Abigail Chamberlain wireddu ei breuddwyd gydol o oes o redeg ei busnes ei hun a sefydlu Welsh Luxury Hamper Company ym mis Hydref 2019 yng Nghas-gwent, yn cynnig hamperi moethus yn llawn cynnyrch Cymreig.

Cyflwyniad i'r busnes

Wedi ei sefydlu gan Abigail Chamberlain yng Nghas-gwent, mae Welsh Luxury Hamper Co. yn cynnig hamperi moethus yn llawn cynnyrch lleol o bob cwr o Gymru, wedi eu hysbrydoli gan dreftadaeth a thirwedd hardd y wlad. Mae pob hamper wedi ei llenwi â chynnyrch ac eitemau cofrodd wedi eu cyflwyno mewn bocs wedi ei wneud â llaw, ac wedi eu gosod yng nghanol gwely o wlân coed pinwydd neu dderw.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Dechreuais Welsh Luxury Hamper Company ym mis Hydref 2019 ar ôl imi dreulio sawl blwyddyn yn gweithio arno. Yn 2017, es i brifysgol i astudio Cerddoriaeth, ond dechreuais ei chael hi'n hynod o anodd ac yn y pen draw, cefais fy mwlio oddi ar y cwrs a chael diagnosis o Ddyslecsia.

Ar ôl dioddef gyda fy iechyd meddwl ar ôl y brifysgol, penderfynais ymuno â chwrs busnes yng Ngholeg Gwent. Cynghoron nhw i mi gyflwyno fy syniad i banel o weithwyr proffesiynol i gael cyfle o sicrhau ychydig o gyllid er mwyn fy helpu i roi fy syniad ar waith. Roeddwn yn ddigon ffodus i ennill micro-grant a oedd yn fy ngalluogi i fynd i'r afael ag ymchwil i'r farchnad perthnasol.

Roeddwn i eisiau rhedeg fy musnes fy hun ers yn ifanc; rwyf wastad wedi breuddwydio gwneud rhywbeth sy'n bwysig i mi. Rwyf wir yn credu os ydych yn gwneud rhywbeth sy'n bwysig i chi, ni fyddwch yn gweithio diwrnod yn eich bywyd. Yn bersonol, rwyf yn hoff o heriau, ac rwy'n teimlo fy mod yn medru gosod fy nodau fy hun drwy fod yn fos arnaf i fy hun. Mae busnes yn ffordd wych o herio'r nodau hyn wrth hefyd gynnig cyfleoedd i'w cyflawni bod dydd.

Pa heriau a wyneboch?

Pan ddechreuais i'r busnes, roeddwn yn disgwyl i werthiant lifo'n eithaf graddol. Yn sicr, nid oedd hyn yn wir. Roeddwn yn ddigon ffodus o allu gofyn wrth fy nheulu cefnogol i fy helpu. 

Mae llif arian wedi bod yn broblem gan fod cwmnïau mawr wedi cysylltu â mi eisiau cytundebau ac archebion mawr, ond nid oes gen i'r cyllid yn ei le i allu cefnogi hyn a chwblhau'r archebion hyn. Mae Busnes Cymru wedi fy helpu drwy fy nhywys drwy'r hyn a all fod yn broses hynod frawychus.

Ar ôl cyhoeddi'r cyfnod clo, dechreuais boeni o ddifrif am ddyfodol fy musnes. Lansiais y busnes ym mis Hydref y llynedd, ac roeddwn yn poeni y byddai hyn yn chwalu fy hyder. Nid oeddwn yn gymwys i dderbyn unrhyw grantiau gan y llywodraeth gan nad oeddwn wedi bod yn masnachu ers dros flwyddyn, ac am nad oeddwn yn talu cyfraddau busnes yn uniongyrchol. Sylwais ar y cyfle hwn i ymgeisio am grant cymorth Ymddiriedolaeth y Tywysog, ac fe gyflwynais fy nghais ar fy union. Rwy'n hynod ddiolchgar o dderbyn cymorth gan y grant hwn, ac mae wedi fy helpu i ail-adeiladu fy hyder a pharhau i fasnachu a chyflwyno cynnyrch cyffrous newydd. 

Mae arian y grant wedi caniatáu i mi gychwyn cynllunio amrywiaeth o gynnyrch newydd, arloesol a chyffrous. Byddaf yn cynnig hamperi blwch llythyrau moethus Cymreig fforddiadwy, a fydd ar gael i gynulleidfa ehangach. Bydd yn wasanaeth digyswllt, gan fod y cwsmer yn derbyn y hamper yn uniongyrchol drwy'r blwch llythyrau. Rwyf wedi bod eisiau cynnig y gwasanaeth ers peth amser, ac mae'r grant wedi gwneud hyn yn bosib.

Mae'r busnes wedi tyfu yn ystod y cyfnod clo. Rwyf wedi derbyn dau gontract newydd gyda chleientiaid corfforaethol, ac wedi gweld cynnydd syfrdanol mewn gwerthiant ar-lein. Rwy'n hynod ddiolchgar i'm cwsmeriaid hyfryd.

Cymorth Busnes Cymru

Wedi iddi ddenu diddordeb gan frandiau byd-eang gan gynnwys John Lewis a Fine and Country Estate Agents, cafodd Abi gymorth gan raglen Syniadau Mawr Cymru Busnes Cymru er mwyn helpu sefydlu'r busnes. Mae hi nawr yn gweithio gyda Kris Hicks, Rheolwr Cysylltiadau, sydd yn ei helpu gyda chostau, strategaeth brisio a sefydlu partneriaethau gyda darpar gleientiaid a chyflenwyr.

Canlyniadau

  • lansio'n llwyddiannus drwy Syniadau Mawr Cymru
  • cymorth Rheoli Cysylltiadau gyda chostau, strategaeth brisio a marchnata

Mae Kris o Busnes Cymru wedi bod yn wych. Mae ei arbenigedd ym myd busnes wedi fy helpu'n sylweddol. Mae wedi rhoi syniadau imi ynghylch ymestyn fy ystod o gynnyrch ac wedi fy nghyflwyno at ystod eang o gleientiaid posibl. Mae'n gysur mawr cael rhywun yn fy nghefnogi i drwy'r daith hon. Os oes gen i unrhyw gwestiynau, mae Kris yn medru eu hateb nhw, neu fy rhoi ar y trywydd iawn. 

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Rywf yn bwriadu tyfu fy musnes a chynnig ystod eang o gynnyrch i fy rhestr gynyddol hir o gwsmeriaid. Mae gennyf gynlluniau ar gyfer y dyfodol i ymestyn at wneud hamperi Saesneg, Albanaidd a Gwyddelig. Rwy'n gweithio ar sawl contract gyda chwsmeriaid mawr a byddwn wrth fy modd i fod mewn sefyllfa i gyflawni'r rhain. Byddaf yn defnyddio fy musnes fel llwyfan i annog merched ifanc eraill i'r byd busnes a herio'r anghydbwysedd sydd yn y diwydiant.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.