BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Wild Moon Distillery

Wild Moon Distillery

Cefais fy nghyfeirio gan Busnes Cymru at y sefydliadau priodol a mentoriaid a benodwyd yn arbennig i’m helpu gyda rhai meysydd busnes, sy’n ddefnyddiol iawn i mi.

Tra bu Jade Garston yn mynychu digwyddiadau a phriodasau yn gweini diodydd o’i bar symudol, canfu bod galw mawr; yn enwedig am jin. Rhoddodd hyn y syniad iddi ddatblygu ei gwirodydd ei hun, gan gynhyrchu Rym, Jin a Fodca. Gan ddefnyddio ei phroses ddistyllfa ei hun ynghyd â chyffyrddiad Cymreig unigryw, dechreuodd Jade ei busnes distyllfa, Wild Moon.

Gan fod Jade yn bwriadu datblygu a thyfu ei chwmni, sicrhaodd ei chynghorydd busnes yn Busnes Cymru fod strwythur a phroses gyffredinol i’w chynllun busnes, gan ei galluogi i wneud y mwyaf o’i chryfderau a dirprwyo’r llwyth gwaith.

Bu cynghorydd busnes Jade yn trafod diogelu ei brand gyda nod masnach ac eiddo deallusol ei ryseitiau. Rhoddwyd gwybod i Jade hefyd am Bolisiau Amgylcheddol, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, y mae hi wedi’u datblygu ers hynny i sicrhau ei bod yn nodi cynllun o welliant parhaus.

Yn ogystal, cyfeiriwyd Jade at dîm Cyflymu Cymru a roddodd gyngor ar optimeiddio peiriannau chwilio a chyfryngau cymdeithasol.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.