Bydd miloedd o rieni y mae angen gofal arbenigol ar eu babanod ar ôl eu geni yn gallu cymryd amser ychwanegol i ffwrdd o'r gwaith gyda thâl, o dan ddeddfwriaeth newydd a gefnogir gan lywodraeth y DU.
Bydd babi sy'n cael ei eni'n gynamserol neu'n sâl yn derbyn gofal newyddenedigol yn yr ysbyty neu leoliad gofal arall y cytunwyd arno – yn aml am gyfnod hir. Gall hyn roi rhieni mewn sefyllfa anodd o orfod defnyddio eu hawliau gwyliau presennol i fod wrth ochr eu babi, neu'n waeth, gorfod dychwelyd i'r gwaith tra bod eu babi'n dal i dderbyn gofal yn yr ysbyty.
Bydd y Bil Gofal Newyddenedigol (Absenoldeb a Thâl) yn caniatáu i rieni gymryd hyd at 12 wythnos o absenoldeb â thâl, yn ogystal â hawliau absenoldeb eraill fel absenoldeb mamolaeth a thadolaeth, fel y gallant dreulio mwy o amser gyda'u babi ar adeg sy'n peri straen mawr.
Wedi iddi ddod yn gyfraith, bydd absenoldeb gofal newyddenedigol ar gael i weithwyr o'u diwrnod cyntaf mewn swydd newydd a bydd yn berthnasol i rieni babanod sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty hyd at 28 diwrnod oed, ac sy'n cael arhosiad parhaus yn yr ysbyty o 7 diwrnod llawn neu fwy.
Telir absenoldeb gofal newyddenedigol os yw'r rhieni'n bodloni amodau penodol o ran parhad gwasanaeth ac isafswm enillion.
I gael mwy o wybodaeth ewch i Parents whose babies require neonatal care to receive paid leave under new law backed by government - GOV.UK (www.gov.uk)