BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Anabledd ac Entrepreneuriaeth

Mae Small Business Britain yn gweithio gyda Grŵp Bancio Lloyds i ddeall byd entrepreneuriaeth yn y DU.

Maen nhw'n awyddus i glywed gennych chi ar sut mae eich taith entrepreneuraidd, neu taith rhywun rydych chi'n gweithredu mewn rôl gofalwr ar ei gyfer, wedi cael ei effeithio gan eich/eu anabledd, yn gadarnhaol ac yn negyddol. 

Maen nhw'n awyddus i ddeall ble mae meysydd y gellir eu gwella a sut yr hoffech chi i'r byd drafod y pwnc hwn. Nod y cwestiynau yn yr ymchwil hon yw helpu i ddeall eich profiad byw.

Os oes gennych iaith ddewisol ar gyfer trafod y pwnc hwn, rhowch wybod iddyn nhw ar ddiwedd yr arolwg. 

Bydd y mewnwelediad hwn yn cael ei ddefnyddio'n ddienw i helpu llywio adroddiad ar y pwnc hwn gan Small Business Britain a Grŵp Bancio Lloyds i'w lansio yn gynnar yn 2023. 

Nod yr ymchwil hon yw helpu creu amgylchedd entrepreneuraidd gwell yn y DU i'r rheiny sydd ag anableddau a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i ffynnu a gwireddu eu breuddwydion busnes.

Bydd yr arolwg yn cymryd llai na 10 munud ac ar y diwedd, os dymunwch, cewch gyfle i ennill iPad! 

Os ydych yn cael trafferth cyrchu neu ymateb I'r arolwg, anfonwch neges e-bost at Small Business Britain  hello@smallbusinessbritain.uk ,  a gallant eich cynorthwyo i'w lenwi, fel y bo'n briodol ar gyfer eich anghenion.

I lenwi’r arolwg, cliciwch ar y ddolen ganlynol https://www.surveymonkey.co.uk/r/disabilityentrepreneurs
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.