BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg ar ddiwygiadau posibl i’r Cod Talu’n Brydlon

Ar ôl i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol gyhoeddi Ymateb y Llywodraeth i’r Alwad am Dystiolaeth ar Greu Diwylliant Talu Cyfrifol, cyhoeddwyd y byddai’r Cod Talu’n Brydlon yn cael ei gryfhau a’i ddiwygio.

Y cam cyntaf oedd trosglwyddo gweinyddiaeth y Cod i Swyddfa’r Comisiynydd Busnesau Bach. Hoffai BEIS nawr ymgysylltu â rhanddeiliaid sydd â buddiant ynghylch sut beth fyddai Cod wedi’i gryfhau.

Gydol y pandemig Covid 19, mae dros 300 o sefydliadau wedi ymrwymo i’r Cod. Mae BEIS yn awyddus i gynnal y momentwm hwn ac yn credu bod Cod diwygiedig yn adnodd allweddol wrth wella arferion talu mewn cwmnïau a sefydliadau o bob maint.

Rydym am glywed eich barn ar sut gallai’r Cod newydd edrych a gallwch gyflwyno’ch safbwyntiau yma cyn y dyddiad cau ar 16 Hydref 2020.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.