BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg gyrru’n ddiogel ar gyfer gwaith

I’r rhan fwyaf o bobl, bydd gyrru yn un o’r gweithgareddau peryclaf y byddant yn ei wneud ac mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddiddordeb mewn clywed gan bobl sy’n gyrru ar gyfer gwaith, neu’r rhai sy’n eu cyflogi.

Amcangyfrifir bod traean o’r holl ddamweiniau ffordd ym Mhrydain yn gysylltiedig â rhywun sy’n gyrru fel rhan o’i swydd ac mae llawer o ddamweiniau eraill yn cynnwys pobl sy’n teithio i neu o’u gweithle.

Fel rhywun sy’n gyrru ar gyfer gwaith, neu sy’n cyflogi rhywun sy’n gwneud, mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddiddordeb yn eich safbwyntiau/profiadau ynghylch y risgiau rydych chi/eich gweithwyr yn eu hwynebu wrth yrru yn ystod oriau gwaith (heblaw am gymudo).

Bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddiweddaru ei ganllawiau INDG382 Driving at Work www.hse.gov.uk/pubns/indg382.htm i helpu’r rhai sydd â dyletswydd i reoli risgiau ffyrdd sy’n gysylltiedig â gwaith.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae datblygiadau pwysig mewn technolegau ac arferion gyrru wedi peri amheuaeth am berthnasedd y canllawiau hyn ac mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am nodi sut gellir eu gwella o ran eu perthnasedd a’u hygyrchedd.

Am ragor o wybodaeth, ac i gwblhau’r arolwg, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, bydd yr arolwg yn cau ar 31 Ionawr 2021.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.