BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolygiadau Dirybudd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: sicrhau bod eich gweithle yn ddiogel o ran COVID

Mae arolygwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal arolygiadau dirybudd mewn dinasoedd a threfi lle mae argyfwng coronafeirws, er mwyn sicrhau  bod busnesau yn COVID-ddiogel.

Mae bod yn COVID-ddiogel yn golygu bod angen i fusnesau roi addasiadau yn y gweithle ar waith, bod yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf a rhoi mesurau ar waith i reoli'r risg a diogelu gweithwyr ac eraill.

Mae camau ymarferol y gall busnesau eu cymryd, gan gynnwys:

  • cam 1 – cynnal asesiad o risg COVID-19
  • cam 2 - datblygu gweithdrefnau glanhau, golchi dwylo a hylendid
  • cam 3 – cynnal pellter cymdeithasol o 2 fetr lle bo’n bosibl
  • cam 4 – lle na all pobl fod 2 fetr ar wahân, rheoli risg trosglwyddo

Bydd canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar weithio’n ddiogel yn ystod yr argyfwng coronafeirws yn eich helpu i reoli’r risg sy’n gysylltiedig ag ailddechrau neu redeg eich busnes yn ystod y pandemig.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch..


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.