BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Biwroau Cyflogaeth a Menter

Mae gan bob coleg addysg bellach yng Nghymru ei Biwro Cyflogaeth a Menter ei hun i baratoi pobl ifanc ar gyfer byd gwaith a’u helpu i gael hyd i swydd neu i ddechrau eu busnes eu hunain, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Mae’r Biwroau o’r radd flaenaf yn rhan bwysig o un o gynlluniau pwysicaf Llywodraeth Cymru, y Warant i Bobl Ifanc. Mae’n warant y bydd pob person o dan 25 oed sy’n byw yng Nghymru yn cael help i gael hyfforddiant neu le mewn addysg a help i gael hyd i swydd neu i fynd yn hunangyflogedig.

Bydd Llywodraeth Cymru’n neilltuo £2.36 miliwn y flwyddyn ariannol hon i’r biwroau newydd i helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer y farchnad lafur trwy becyn o gyfleoedd fydd yn cael eu cynnig i ddysgwyr amser llawn a rhan-amser fel ei gilydd.

Bydd y cymorth hwn yn meithrin sgiliau cyflogaeth a menter hanfodol, a chynigir cyngor ac arweiniad hefyd i helpu pobl ifanc i fyd gwaith neu hunangyflogaeth.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Biwroau Cyflogaeth a Menter o’r radd flaenaf yn helpu pobl ifanc i baratoi ar gyfer byd gwaith | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.