BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Business Companion – esbonio cyfraith safonau masnach

Digital scales

Mae Business Companion yn rhoi arweiniad cyfreithiol diduedd am ddim i fusnesau ac unigolion sydd angen gwybod am Safonau Masnach a deddfwriaeth sy’n diogelu defnyddwyr.

Mae’r wefan wedi ei rhagosod i roi canllawiau ar gyfer Lloegr, ond os ydych yn masnachu yng Nghymru neu’r Alban, dewiswch eich lleoliad gan ddefnyddio’r gwymplen ar frig y dudalen. Mae hyn oherwydd bod rhai cyfreithiau’n berthnasol i un neu ddwy o’r gwledydd yn unig, tra bod eraill yn berthnasol i bob un o’r tair gwlad ym Mhrydain Fawr neu i bob un o wledydd y DU.

Mae'r canllawiau wedi'u rhannu'n 15 canllaw cyflym ac mae pob un yn cynnwys nifer o ganllawiau manylach. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Home | Business Companion


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.