BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau a Chymorth ar gyfer Hysbysiadau Cyn-byrddio

Rydym yn ymwybodol y gallai fod angen cymorth ar fusnesau i gwblhau Hysbysiadau Cyn-byrddio Cyllid Iwerddon (PBN) gan ddefnyddio eu system ar-lein.

Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae Cyllid Iwerddon wedi cyhoeddi nifer o nodiadau canllaw, gan gynnwys canllaw defnyddiwr ar gyfer hysbysiadau PBN.

Sylwch – os oes angen help arnoch gydag unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â PBN gallwch gysylltu â Chyllid Iwerddon am gymorth drwy:

  • eu Llinell Gymorth Tollau Tramor 24/7, ar 00 353 1 7383685
  • y blwch post pwrpasol canlynol: customsPBN@revenue.ie

Darllenwch y canllaw Hysbysiad Cyn-Byrddio (PBN) neu edrychwch ar y canllawiau fideo ar wefan revenue.ie.

Darllenwch y taflenni Canllawiau Tollau ar gyfer gyrwyr sy'n cyrraedd porthladdoedd Dulyn a Rosslare.

Ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor a chanllawiau pwysig ar gyfer busnesau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.