BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau diweddaraf Llywodraeth y DU: Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws a’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws

Mae’r grant yn cael ei ymestyn o 1 Tachwedd 2020. Edrychwch yma i weld a ydych chi’n gymwys a faint allwch ei gael. Mae canllawiau ar gael ar sut bydd CThEM yn cyfrifo’ch elw masnachu a’ch incwm di-fasnach os ydych chi’n hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth ac wedi’ch effeithio’n andwyol gan y coronafeirws.

Mae fideo ar sut i hawlio’r ail grant cam wrth gam ar gael yma

Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws

30 Tachwedd 2020 yw’r diwrnod olaf i chi allu gwneud cais am y cyfnodau sy’n dod i ben ar neu cyn 31 Hydref 2020. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cyflwyno unrhyw geisiadau pellach nac ychwanegu at geisiadau presennol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.