BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canllawiau newydd ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr cerbydau nwyddau

Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi canllawiau newydd sbon sydd wedi’u llunio i atal terfysgwyr rhag cael mynediad at gerbydau masnachol.

Mae’r canllawiau yn nodi’r camau syml y dylai gweithredwyr a gyrwyr trafnidiaeth eu cymryd i hyrwyddo diwylliant diogelwch da yn eu sefydliadau a helpu i gadw cerbydau’n saff a gweithwyr yn ddiogel.

Mae’n cynnwys rhestr wirio diogelwch sy’n darparu cyngor i yrwyr er mwyn lleihau’r risg y gallai eu cerbydau gael eu dwyn i’w defnyddio mewn ymosodiad.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.