BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Canolfan Gymorth Gymunedol yn agor i gefnogi'r rhai y mae penderfyniad pontio Tata yn effeithio arnynt

community support centre

Mae Canolfan Gymorth Gymunedol newydd wedi agor yng Nghanolfan Siopa Aberafan i ddarparu cymorth, arweiniad a chyngor ar ailhyfforddi i unigolion a busnesau y mae penderfyniad Tata Steel UK i ddefnyddio dulliau mwy gwyrdd o wneud dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt.

Bydd y cyfleuster, a agorwyd gan undeb Community, gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, yn cefnogi ac yn darparu cyngor pwrpasol i Tata a gweithwyr y gadwyn gyflenwi, eu teuluoedd a busnesau yr effeithir arnynt yn ogystal ag un pwynt cyswllt corfforol.

Bydd hyn yn cynnwys cyfeirio pobl at gymorth sydd ar gael gan y Gronfa Cymorth Cyflogaeth. Caiff y gronfa hon ei chefnogi gan £13.5 miliwn sydd wedi’i ryddhau gan Lywodraeth y DU o Fwrdd Pontio Tata Steel / Port Talbot. Bwriad y Gronfa yw helpu gweithwyr unigol i ddod o hyd i swyddi, dysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau mewn meysydd lle y mae swyddi gwag.

Bydd gwybodaeth a chymorth allweddol ar gael gan gynghorwyr o amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau, gan gynnwys Cyflogadwyedd Castell-nedd Port Talbot, Gyrfa Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau, UKSE ac Acorn.

Bydd y Ganolfan Gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener i bawb sy’n wynebu penderfyniad Tata i ddod â chynhyrchiant dur cynradd i ben ym Mhort Talbot, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn cwmnïau’r gadwyn gyflenwi a'r rhai sy'n byw y tu hwnt i ardal Castell-nedd Port Talbot.

Gwahoddir busnesau'r gadwyn gyflenwi y mae'r newid i wneud dur drwy ddefnyddio ffwrnais arc trydan ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt i geisio cyllid i oresgyn heriau tymor byr yn ystod y cyfnod pontio, yn ogystal â helpu busnesau i ailffocysu wrth baratoi ar gyfer cyfleoedd twf newydd.

Mae Cronfa Hyblyg Pontio'r Gadwyn Gyflenwi sy'n cael ei hwyluso gan Busnes Cymru a Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn rhan o gronfa gymorth gyffredinol gwerth £80 miliwn a ddarperir gan Lywodraeth y DU drwy'r bwrdd pontio trawslywodraethol.

Mae canolfan wybodaeth ddigidol yn gallu cyfeirio’r gweithwyr a’r busnesau perthnasol at gymorth yn Hwb Gwybodaeth Pontio Tata Steel - Cyngor Castell-nedd Port Talbot (npt.gov.uk).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.