BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Clybiau Plant Cymru – cefnogi busnesau gofal plant allan o’r ysgol

Mae Clybiau Plant Cymru wedi bod yn cefnogi’r sector gofal plant gydol cyfyngiadau symud Covid-19 gyda chymorth busnes penodol i’r sector, gan gynnwys cynllunio brys a chyllid.

Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd lleoliadau gofal plant yn gallu cynyddu nifer y plant y maent yn gofalu amdanynt, maent bellach yn cefnogi lleoliadau gofal plant gyda’u cynlluniau i ailagor, gan gynnwys y canlynol:

  • Hyfforddiant - mae’r tîm hyfforddi wedi datblygu dulliau darpariaeth ar-lein ar gyfer cymwysterau a hyfforddiant DPP ar ôl y cyfyngiadau symud. Ar hyn o bryd, mae’n darparu prentisiaethau gwaith ar Lefel 2, 3 a 5 ac yn gallu cynnig darpariaeth ar-lein o Wobr Lefel 3 CACHE mewn Pontio i Waith Chwarae (o’r blynyddoedd cynnar) a hyfforddiant diogelu ar-lein.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Clybiau Plant Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.