BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cofrestrwch eich Busnes Bach ar gyfer The Small Awards 2024

small business owners standing in their cafe

Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn rhedeg busnes bach ysbrydoledig sy’n ateb y diben ar gyfer #TheSmallAwards? Os felly, peidiwch â cholli allan a gwnewch gais ar gyfer 2024!

Bydd y beirniadu wedi’i seilio ar nifer o feini prawf sy’n berthnasol i’r wobr benodol, gan edrych hefyd am berfformiad cryf fel busnes parhaus. Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o ymgysylltiad cymunedol cryf gan fusnesau bach.

Mae’r categorïau fel a ganlyn:

  • High Street Hero – y busnes gorau ar y stryd fawr
  • Gwobr Bricks and Clicks – y busnes bach aml-sianel gorau
  • Gwobr Legacy – y busnes teuluol gorau
  • Supply Chain Champion – y busnes ‘busnes-i-fusnes’ gorau
  • New Kid On The Block – y busnes newydd gorau (llai na 18 mis oed)
  • Digital Star – y busnes ‘digidol yn unig’ gorau
  • Heart Of Gold – y busnes sy’n cyfrannu fwyaf i’w gymuned
  • At Your Service – y busnes gwasanaeth bach gorau
  • Sole to Sole – y perchennog busnes bach hunangyflogedig gorau
  • Mission Possible – y busnes menter gymdeithasol gorau
  • Net Hero – y busnes sy’n dangos ymrwymiad eithriadol i gynaliadwyedd amgylcheddol
  • Gwobr Small Business of the Year – y busnes bach gorau yn gyffredinol

Mae ceisiadau’n cau am hanner nos ar 29 Chwefror 2024.

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan The Small Awards UK


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.