BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Busnesau mwy i fanteisio ar fenthyciadau o hyd at £200 miliwn

Bydd busnesau yn gallu manteisio ar fenthyciadau mwy o dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CLBILS).

Cynyddir uchafswm maint y benthyciad sydd ar gael o dan y cynllun o £50 miliwn i £200 miliwn i helpu i sicrhau bod gan y cwmnïau mawr hynny nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cyfleuster Ariannu Corfforaethol Covid-19 (CCFF) Banc Lloegr ddigon o gyllid i ddiwallu anghenion llif arian yn ystod cyfnod yr argyfwng.

Bydd y benthyciadau estynedig, sydd yn cael eu cyflwyno ar ôl trafodaethau gyda benthycwyr a grwpiau busnes, ar gael o 26 Mai 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.