BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Dyddiau tarfu ar y Swyddfa Eiddo Deallusol wedi’u hymestyn hyd 22 Mehefin 2020

Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol wedi cyhoeddi 24 Mawrth 2020 a’r dyddiau wedi hynny, yn ddyddiau tarfu.

‘Diwrnod tarfu’ yw diwrnod lle nad yw hi’n bosibl cyflawni busnes arferol yn y Swyddfa Eiddo Deallusol. Bydd y Swyddfa yn adolygu’r sefyllfa eto ar 22 Mehefin 2020.

Mae hyn yn golygu y bydd y rhan fwyaf o ddyddiadau cau ar gyfer:

  • patentau
  • tystysgrifau diogelwch atodol
  • nodau masnach
  • cynlluniau

a cheisiadau ar gyfer yr hawliau hyn, sy’n disgyn ar ddiwrnod tarfu, yn cael eu hymestyn.

Er mwyn helpu deiliaid hawliau, busnesau a gweithwyr eiddo deallusol proffesiynol i gynllunio ymlaen, bydd y Swyddfa Eiddo Deallusol yn rhoi rhybudd o 2 wythnos o leiaf cyn dod â’r cyfnod diwrnodau tarfu i ben.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.