BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Rhaglen Cymorth Cymunedol Barclays

Mae Rhaglen Cymorth Cymunedol C)VID-19 100x100 Barclays yn gwneud 100 rhodd o £100,000 yr un i elusennau yn y DU sy’n gweithio i gynorthwyo cymunedau bregus sy’n cael eu heffeithio gan COVID-19, a’r caledi cymdeithasol ac economaidd cysylltiedig a achosir gan yr argyfwng.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi partneriaid elusennol sy’n diwallu anghenion uniongyrchol pobl yn ein cymunedau, gan gynnwys teuluoedd ar incwm isel, y rhai sy’n wynebu caledi, pobl hŷn wedi’u hynysu a gweithwyr allweddol.

Gwahoddir elusennau sydd wedi’u cofrestru yn y DU i wneud cais am rodd i gefnogi eu gwaith cymorth erbyn y dyddiad cau ar ddydd Gwener 22 Mai 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Barclays.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.