BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

COVID-19: Y Comisiynydd Busnesau Bach

Mae’r Comisiynydd Busnesau Bach yn cynorthwyo busnesau i ddatrys anghydfodau ynghylch materion talu hwyr ac annheg ac yn darparu cyngor, gan gynnwys ar sut i weithredu os oes taliad yn ddyledus.

Gan fod llawer o berchnogion busnes wedi’u heffeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan Covid-19, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod busnesau bach yn cael eu talu’n brydlon.

Mae llawer o fusnesau bach yn gofyn am gymorth, gydag anghydfodau ynghylch taliadau hwyr neu mewn rhai achosion, diffyg talu oherwydd y caledi ariannol y mae pob sector yn ei brofi yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Am ragor o gyngor a gwybodaeth, ewch i wefan Y Comisiynydd Busnesau Bach.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.