BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Balchder Llawr Gwlad 2024

Pride Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno ehangu Cronfa Balchder Llawr Gwlad i ardaloedd mwy gwledig a threfi llai, i helpu i greu cyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd a bod yn driw i’w hunain ledled Cymru.

Bydd y gronfa yn helpu i gefnogi digwyddiadau i greu amgylchedd diogel a chroesawus ar gyfer pobl LHDTC+ ac yn helpu digwyddiadau Balchder llai ledled Cymru i ymgysylltu â phobl LHDTC+ a chymunedau ehangach a’u cefnogi.

Dylid cael un ymgeisydd arweiniol a fydd yn gweithredu fel rheolwr y prosiect ac sy’n gyfrifol am reoli’r dyfarniad cyllid o ddydd i ddydd.

Dyma rai o dargedau’r Gronfa:

  • cynnal digwyddiad Balchder LHDTC+ mewn lleoliad yng Nghymru, a all gynnwys cyfleoedd i berfformwyr ac artistiaid LHDTC+
  • cynnal gwaith maes gyda chymunedau ehangach, gan ganolbwyntio ar archwilio gofodau mwy diogel a chefnogi gweithgareddau cymdeithasol newydd
  • cyfrannu at ein hymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i Gymru fod y wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop

Rydym yn annog sefydliadau i gyflwyno cais erbyn 7 Ebrill 2024 neu cyn hynny. Gellid ystyried ceisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad hwnnw, os bydd y cyllid ar gael.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Cronfa Balchder Llawr Gwlad | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.