BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Cadernid Economaidd – Gwirio ydy’ch busnes chi’n gymwys am gymorth o’r cam nesaf

Gall busnesau wirio nawr ydyn nhw’n gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o gam nesaf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gronfa wedi’i llunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth grant eraill nad oes angen eu had-dalu oherwydd COVID-19 gan Lywodraeth Cymru.

Gall busnesau cymwys hawlio hyd at:

  • £10,000 ar gyfer microfusnesau
  • £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig
  • £690,000 ar gyfer busnesau mawr

Mae’r gwiriwr cymhwysedd ar-lein wedi ailagor bellach er mwyn i gwmnïau gael amser i baratoi eu ceisiadau, a bydd busnesau yn gallu gwneud ceisiadau ar 29 Mehefin 2020.

Cwblhewch y gwiriwr cymhwysedd am gymorth COVID-19 i weld ydy’ch busnes chi’n gymwys.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.