BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Cydnerthedd Diwylliannol

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £53 miliwn i helpu sector diwylliant amrywiol Cymru i ddelio gydag effeithiau pandemig y coronafeirws. Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae “contract diwylliannol” yn rhan greiddiol ohoni er mwyn helpu’r sector i ddod allan o’r pandemig yn gryfach nag erioed.

Bydd y Gronfa Cydnerthedd Diwylliannol yn helpu i warchod sefydliadau, unigolion a swyddi yn y sector diwylliant, gan gynnwys:

  • theatrau
  • orielau
  • lleoliadau cerddoriaeth, busnesau ac unigolion
  • safleoedd treftadaeth
  • amgueddfeydd lleol, llyfrgelloedd a gwasanaethau archif
  • digwyddiadau a gwyliau
  • sinemâu annibynnol

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.