BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Cymru Actif

Mae Cronfa Cymru Actif yn cynnig grantiau sydd rhwng £300 a £50,000 i brosiectau yng Nghymru sy’n bwriadu gwneud o leiaf un o’r canlynol:

  • Lleihau anghydraddoldeb
  • Creu cynaliadwyedd tymor hir
  • Cyflwyno ffyrdd newydd neu wahanol o weithredu

Er enghraifft, gellid defnyddio’r cyllid i wneud y canlynol:

  • Gwella sgiliau gwirfoddolwyr lle mae gan glybiau fylchau mewn sgiliau neu brofiad
  • Prynu offer sy'n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon
  • Datblygu ffyrdd newydd neu wahanol o gyflwyno gweithgarwch corfforol
  • Defnyddio technoleg i ymgysylltu â mwy o bobl
  • Cyrraedd pobl sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol

Sawl gwaith y gallaf wneud cais?

Gallwch wneud cais unwaith fel clwb neu grŵp bob blwyddyn ariannol (Ebrill i Ebrill). 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cronfa Cymru Actif | Chwaraeon Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.