Heddiw, gall cynghorau ledled y wlad wneud cais am gyfran o £4.8 biliwn o gyllid ffyniant bro blaenllaw ar gyfer prosiectau sy'n gwella bywyd bob dydd pobl ledled y DU.
Agorodd ail rownd Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU i dderbyn ceisiadau ar 15 Gorffennaf 2022, a bydd yn parhau ar agor tan ganol dydd, 2 Awst 2022.
Mae un newid i'r broses ymgeisio, sef y bydd ASau ym Mhrydain Fawr bellach yn gallu rhoi cefnogaeth i ddau gais sydd o fudd i'w hetholaethau yn y cylch hwn, yn hytrach nag un. Mae hyn yn cydnabod y ffaith bod nifer o etholaethau ASau yn cwmpasu mwy nag un ardal cyngor.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Ail Rownd y Gronfa Ffyniant Bro: ffurflen gais a chanllawiau - GOV.UK (www.gov.uk)