BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Galedi Coronafeirws Undeb y Cerddorion

Mewn ymateb i gymaint o waith yn cael ei ganslo yn sgil y pandemig Covid-19, mae Undeb y Cerddorion (yr MU) wedi sefydlu cronfa galedi gwerth £1 miliwn y gall aelodau wneud cais amdani.

Mae’r gronfa ar gael i aelodau presennol yr MU sydd:

  • yn talu tanysgrifiad aelodaeth lawn o’r MU ar hyn o bryd, neu’n talu tanysgrifiad cyd-aelodaeth lawn o’r MU / NEU (yn llawn neu drwy Ddebyd Uniongyrchol)
  • sydd â chyfrif banc yn y DU i dalu’r grant iddo
  • sy’n dioddef caledi go iawn yn sgil colli gwaith oherwydd y pandemig Coronafeirws
  • sydd heb lwyddo’n barod i dderbyn taliad gan Gronfa Galedi Coronafeirws yr MU

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr MU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.