BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon

Mae’r Gronfa Gweithwyr Llawrydd Chwaraeon wedi'i chynllunio i helpu gweithwyr llawrydd ym maes chwaraeon a gweithgarwch corfforol i adfer y colledion maent wedi'u profi o ganlyniad i'r pandemig COVID-19.

Mae'r gronfa ar gyfer gweithwyr llawrydd y mae eu gwaith yn darparu gweithgarwch yn uniongyrchol i gyfranogwyr (e.e. hyfforddwyr personol, cyfarwyddwyr/ ymarferwyr a hyfforddwyr cyflogedig) sydd wedi colli o leiaf £2,500 o incwm oherwydd pandemig.

Bydd gweithwyr llawrydd sy'n bodloni’r meini prawf cymhwysedd yn cael £2,500 i adfer eu colledion. 

Dylech nodi os cawsoch chi gefnogaeth drwy rownd 1 y Gronfa Gweithwyr Llawrydd, nad ydych yn gymwys am gefnogaeth yn yr ail rownd yma.

Bydd ceisiadau i'r gronfa yn cau am 5pm ddydd Mercher 3 Chwefror 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Chwareon Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.