BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cronfa Twf Glân

Nod y Gronfa Twf Glân yw sbarduno’r defnydd o dechnolegau glân arloesol sy’n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, drwy wneud buddsoddiadau uniongyrchol mewn cwmnïau sy’n ceisio masnacheiddio technolegau addawol.

Mae’r Gronfa yn buddsoddi yn y sectorau canlynol:

  • pŵer
  • adeiladau
  • trafnidiaeth
  • diwydiant
  • gwastraff

Mae’r gronfa £40 miliwn newydd yn cyfuno buddsoddiad £20 miliwn gan yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol law yn llaw ag £20 miliwn gan y buddsoddwr sector preifat CCLA, buddsoddwr sefydliadol o’r DU gydag agenda llywodraethu cymdeithasol amgylcheddol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.